Rhoi gwybod am broblem gwastraff

Beth alla i ei wneud os yw fy min yn llawn? 

Rhowch yr holl wastraff na ellir ei ailgylchu yn eich bin olwynion.

Nid ydym yn casglu bagiau du ychwanegol na gwastraff sydd wedi'i adael wrth ymyl eich bin.

Beth sy'n digwydd i wastraff ychwanegol?

Ni chaiff unrhyw wastraff ychwanegol sydd wedi'i adael wrth ymyl eich bin ei gasglu.

Os nad oes gennych fin olwynion, gallwch roi allan hyd at:

  • 4 bag du fesul casgliad

Creu mwy o le yn eich bin

Gellir ailgylchu llawer o eitemau yn hytrach na'u rhoi yn eich bin du.

Gall ailgylchu mwy eich helpu i wneud y mwyaf o'r lle sydd ar gael.

Peidiwch â rhoi'r eitemau hyn yn eich bin du:

  • gwastraff bwyd
  • papur
  • cardbord
  • cartonau
  • plastig
  • caniau a thuniau
  • ffoil glân
  • batris
  • eitemau trydanol
  • tecstilau
  • llyfrau
  • cewynnau
  • gwastraff gardd

Gallwch hefyd fynd ag eitemau i ganolfan ailgylchu, gan gynnwys:

  • rwbel
  • pren
  • olew
  • metel sgrap
  • cemegau

Angen mwy o le?

Efallai y gallwch ddefnyddio gwasanaethau gwastraff eraill, gan gynnwys:

  • casgliadau ailgylchu wythnosol
  • casgliadau cewynnau a gwastraff hylendid
  • casgliadau gwastraff gardd
  • casgliadau eitemau gwastraff swmpus
  • canolfannau ailgylchu

Beth sy’n digwydd os byddaf yn parhau i roi gwastraff ychwanegol allan?

Rydym yn monitro eiddo lle mae gwastraff ychwanegol yn cael ei adael allan i'w gasglu yn rheolaidd.

Byddwn yn ceisio eich helpu i ailgylchu mwy a lleihau faint o wastraff sydd yn eich bin du.

Os bydd gwastraff ychwanegol yn parhau i gael ei adael allan i'w gasglu, efallai y byddwn yn cymryd camau gweithredu.

Gall hyn gynnwys Hysbysiad Cosb Benodedig o £100. 

Dod o hyd i'ch diwrnod casglu 

Gwiriwch pryd y bydd eich gwastraff a'ch deunyddiau ailgylchu yn cael eu casglu.