Casgliad Gwastraff Gwyrdd

Gallwch ailgylchu eich gwastraff gwyrdd bob bythefnos rhwng dydd Llun 3 Ebrill 2023 a dydd Gwener 17 Tachwedd 2023, drwy gydol misoedd y gwanwyn a’r haf.

Ni fydd angen i chi gofrestru er mwyn defnyddio’r gwasanaeth casglu am ddim yma.

Gofynnir i chi roi eich sachau gwyrdd allan yn eich man casglu cyn 7am ar eich diwrnod casglu os gwelwch yn dda.

DALIER SYLW – Bydd criwiau’n casglu uchafswm o 4 sach werdd bob 2 wythnos. Os ydych yn rhoi mwy na 4 sach werdd mas, ni chânt eu casglu a rhaid eu symud o ymyl y ffordd.

Os oes gennych fwy o wastraff gwyrdd, gallwch fynd â hyn i’ch Canolfannau Gwastraff Cartrefi ac Ailgylchu yn New Vale a Roseheyworth.

Mynd i Ganolfan Ailgylchu

Dim ond sachau gwyrdd a roddir gan y cyngor ddylid eu defnyddio i roi gwastraff gwyrdd. Yn anffodus, ni fedrwn wagio “bagiau tunnell” wedi eu llenwi gyda gwastraff gwyrdd.

Gofyn am Sachau Gwastraff Gardd

Gallwn ddosbarthu sachau gwastraff gwyrdd newydd neu ychwanegol i’ch cartref.

Byddwn yn cyflenwi y rhain yn ddi-dâl.

Gwneud Cais am sachau gwastraff gwyrdd

Casgliadau

Casgliadau Wythnos 1

Bydd casgliadau bob bythefnos yn dechrau yn yr wythnos yn cychwyn dydd Llun 3 Ebrill 2023 ar gyfer yr ardaloedd isod:

DYDDIAU LLUN • Pochin, Tredegar
• Pyllau Bedwellte, Tredegar
• Cefn Golau, Tredegar
• Tredegar Gorllewin a Chanolog, Tredegar
• Ashvale, Tredegar
• Tafarnaubach, Tredegar
• Blue Lake Close, Glynebwy
• Carn y Cefn, Glynebwy
DYDDIAU MAWRTH • Troedrhiwgwair, Tredegar
• Georgetown, Tredegar
• St James Way, Tredegar
• Sirhywi, Tredegar
• Dukestown, Tredegar
• Waundeg & Tŷ Newydd, Tredegar
• Trefil, Tredegar
• Beaufort Wells, Glynebwy
DYDDIAU MERCHER • Rasa, Glynebwy
• Garnlydan, Glynebwy
• Tref Carmel, Glynebwy
• Beaufort (Rhan), Glynebwy
• Bryn Coch, Glynebwy
• Glyncoed (Rhan), Glynebwy
DYDDIAU IAU • Glyncoed (Rhan), Glynebwy
• Pontygof, Glynebwy
• Trehelyg, Glynebwy
• Hilltop, Glynebwy
• Rhiw Briery, Glynebwy
DYDDIAU GWENER • Rhiw Beaufort, Glynebwy
• Heol Hawthorn, Glynebwy
• Bryn Kendall, Glynebwy
• Brynawelon, Glynebwy
• Tŷ’r Meddyg, Glynebwy
• New Church Road, Glynebwy
• Drenewydd, Glynebwy
• The Crescent, Glynebwy
• Clos Pen y Cae, Glynebwy
• Tyllwyn, Glynebwy
• Garden City, Glynebwy
• Parc yr Ŵyl, Glynebwy
• Waunlwyd, Glynebwy

Casgliadau Wythnos 2

Bydd casgliadau bob bythefnos yn dechrau yn yr wythnos yn cychwyn dydd Llun 10 Ebrill 2023 ar gyfer yr ardaloedd isod:

DYDDIAU LLUN • Brynmawr
• Lakeside, Nantyglo
DYDDIAU MAWRTH • Nantyglo
• Coed Cae, Nantyglo
• Cwmcelyn, Blaenau
• Dwyrain Pentwyn/Southland, Blaenau
• Tanglewood, Blaenau
DYDDIAU MERCHER • Winchestown, Nantyglo
• Coalbrookvale, Nantyglo
• Westside, Blaenau
• Blaenau
• Bournville, Blaenau
DYDDIAU IAU • Roseheyworth, Abertyleri
• Cwmtyleri, Abertyleri
• Abertyleri
• Six Bells, Abertyleri
• Cwm, Glynebwy
DYDDIAU GWENER • Aber-bîg, Abertillery
• Llanhiledd, Abertillery
• Brynithel, Abertillery
• Swffryd

Cyn i chi ddechrau

Byddwch angen eich enw defnyddiwr a chyfrinair Fy Ngwasanaethau neu greu cyfrif o’r sgrin mewngofnodi.

Defnyddiwch borwr tebyg i Chrome, Edge neu Safari i gael mynediad i Fy Ngwasanaethau a’r ffurflen isod. Ni fydd yn gweithio yn Internet Explorer.

Os ydych angen help

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ar casgliad gwastraff gwyrdd, anfonwch e-bost at info@blaenau-gwent.gov.uk neu ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 01495 311556.