Yma gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut allwch chi gofrestru marwolaeth, a pha wybodaeth y bydd angen i chi ddod â hi gyda chi i'ch apwyntiad. Bydd y Meddyg/Archwilydd Meddygol yn anfon y gwaith papur perthnasol yn uniongyrchol at y Cofrestrydd a fydd wedyn yn cysylltu â'r Perthynas Agosaf i drefnu apwyntiad addas. Ar ôl derbyn y gwaith papur mae amserlen statudol o 5 diwrnod i gofrestru.
Lle dylwn fynd ar gyfer yr apwyntiad?
Gallwch fynychu'r Swyddfa Gofrestru yn Nhŷ Bedwellte. Lleoliad, manylion parcio ac oriau agor y swyddfa gofrestru.
Gallwch hefyd gofrestru marwolaeth mewn unrhyw Swyddfa Gofrestru arall yng Nghymru neu Loegr drwy ddatganiad. Bydd y Cofrestrydd yn anfon y manylion ar eich rhan i'r Swyddfa Gofrestru berthnasol, dylid nodi y gall hyn oedi'r angladd.
Pwy all gofrestru marwolaeth?
- Perthynas i'r ymadawedig
- Person oedd yn bresennol adeg y farwolaeth
- Person sy'n trefnu'r angladd (nid yr ymgymerwr).
Faint fydd yn rhaid i mi ei dalu?
Nid oes ffi i Gofrestru Marwolaeth fodd bynnag codir £12.50 y copi am dystysgrifau.
Gall fod angen tystysgrifau ar gyfer:
- Profiannaeth neu lythyrau gweinyddu
- Cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu
- Pensiynau preifat
- Cwmnïau preifat
- Cyfreithwyr
Beth ddylwn ddod gyda chi?
Mae'n ddefnyddiol os byddwch chi'n dod â thystysgrif geni neu basbort y person ymadawedig i helpu i wirio sillafu, tystysgrif priodas (os yn berthnasol) a cherdyn meddygol. Yn ogystal, gall y Cofrestrydd gynnig y gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith lle gallwn hysbysu nifer o adrannau'r llywodraeth am y farwolaeth. Dewch â rhif yswiriant gwladol y person ymadawedig, bathodyn glas (os yn berthnasol) a thrwydded yrru gyda chi.
Beth sydd angen i'r Cofrestrydd ei wybod am yr ymadawedig?
- Dyddiad a man marwolaeth
- Dyddiad a man genedigaeth
- Enw llawn ac os oedd yr ymadawedig yn fenyw briod, y cyfenw/enw teuluol a ddefnyddiwyd cyn iddi briodi.
- Eu galwedigaeth
- Eu cyfeiriad arferol
- Os oedd yr ymadawedig yn briod neu mewn partneriaeth sifil enw llawn, dyddiad geni a galwedigaeth y priod neu bartner sifil
- Manylion unrhyw bensiwn sector cyhoeddus - er enghraifft gwasanaethau sifil neu lluoedd arfog.
Pan fydd y cofrestriad wedi’i gwblhau, bydd y cofrestrydd yn gofyn i chi wirio fod yr holl wybodaeth yn gywir cyn llofnodi’r gofrestr. Dylech wirio’r wybodaeth yn ofalus cyn llofnodi. Unwaith y bydd y gofrestr wedi’i llofnodi ni fydd y cofrestrydd bob amser yn medru cywiro unrhyw gamgymeriadau ar unwaith a gall fod yn rhaid gwneud cais i’r Cofrestrydd Cyffredinol am ganiatâd i gywiro.
Pa ddogfennau fyddaf i yn eu cael?
'Ffurflen werdd' i drefnu'r angladd. Bydd angen i chi roi hon i'r trefnydd angladdau. Os cyfeiriwyd y farwolaeth at y crwner, efallai ei fod eisoes wedi rhoi'r ffurflen hon i'r trefnydd angladdau.
Llythyr cadarnhau Dywedwch Wrthym Unwaith (os dewiswch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn). Gallwch brynu tystysgrifau marwolaeth am ffi o £12.50 yr un.