Dosbarthiadau Trochi

Dyfodol dysgu

Yn ddiweddar mae ysgolion wedi wynebu nifer o heriau, wrth geisio cynnal presenoldeb, mynediad a chysylltiadau.

Dyna pam rydym am ddarparu dysgu ymgolli digidol ar gyfer unigolion a grwpiau ar draws y wlad, drwy gyfrwng amryw dechnolegau sy’n rhan o’n pecyn seilwaith digidol.

Potensial diderfyn Wrth gynnig gwasanaethau ystod uwch, bydd myfyrwyr ac addysgwyr yn gallu ffrydio data o unrhyw leoliad heb amhariad, a chysylltu llawer mwy o ddyfeisiadau ar eu rhwydweithiau.

Bydd athrawon hefyd yn gallu edrych tu hwnt i ddulliau dysgu traddodiadol. Syniadau fel taflunio mapiau 360 gradd, gan ddefnyddio pedair wal er cludo’r byd i’r dosbarth.

Meddwl critigol. Datrys problemau. Cydweithio. Technolegau ymgolli yn hwyluso datblygu sgiliau pob myfyriwr mewn dosbarth.

Arferion cynhwysol allweddol. Bydd y dechnoleg newydd hefyd yn helpu myfyrwyr gydag anawsterau dysgu, wrth eu helpu i grynhoi gwybodaeth drwy brofiadau rhyngweithiol.

Gyda’r dechnoleg hon gallant deithio i unrhyw le yn y byd - o ddiogelwch ystafell ddosbarth.

Ar gyfer pob ymholiad archebu, e-bostiwch BGCBC-5GImmersive@blaenau-gwent.gov.uk