Gweithdrefnau Diogelu Cymru

Canllawiau a Deddfwriaeth

Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar gyfer plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a’u hesgeuluso yw’r gweithdrefnau cenedlaethol. Maent yn manylu ar swyddogaethau a chyfrifoldebau hanfodol ymarferwyr i sicrhau eu bod yn diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a’u hesgeuluso.

Mae’r Gweithdrefnau’n helpu ymarferwyr i gymhwyso’r ddeddfwriaeth yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r canllawiau diogelu statudol,  Gweithio gyda’n gilydd i ddiogelu pobl.

Diogelu mewn Addysg:

Cadw Dysgwyr yn Ddiogel: Rôl awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a pherchnogion ysgolion annibynnol o dan Ddeddf Addysg 2002

  Cadw Dysgwyr yn Ddiogel (llyw.cymru)

Mae’r canllawiau cenedlaethol hyn wedi’u bwriadu ar gyfer pawb sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad addysg neu asiantaeth gysylltiedig a fyddai’n elwa o ddeall y broses a’r disgwyliadau ar gyfer diogelu mewn ysgolion, a’r system ehangach.

Mae’r ddogfen yn cynnwys canllawiau i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ar drefniadau ar gyfer diogelu plant o dan Ddeddf Addysg 2002. Mae’r canllawiau’n ymwneud yn uniongyrchol â’r gweithdrefnau a’r dyletswyddau diogelu o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Byrddau Diogelu Gwent

Ewch i wefan Byrddau Diogelu Gwent www.gwentsafeguarding.org.uk i gael gwybodaeth a chyngor am ddim ar Ddiogelu Plant ac Oedolion.

Mae'r wefan yn darparu mynediad i'r ffurflen Dyletswydd i Riportio Materion Diogelu Plant (ffurflen atgyfeirio aml-asiantaeth) a'r ffurflen Dyletswydd i Adrodd ar gyfer diogelu oedolion, ynghyd ag adnodd gwybodaeth eang am ddiogelu, gan gynnwys dolenni i'r system archebu hyfforddiant trwy'r tudalennau Hyfforddiant.