Mae diogelu plant yn gyfrifoldeb i bawb.
Mae gan bawb ddyletswydd i fod yn effro i bryderon ynghylch cam-drin ac esgeuluso plant a phobl ifanc a gwybod i bwy y dylent roi gwybod am eu pryderon.
Mae Awdurdodau Lleol, yr Heddlu, Iechyd, Rheoleiddwyr a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn gweithio gyda'i gilydd ac wedi ymrwymo i sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o gael eu cam-drin yn cael eu diogelu a byddant yn cymryd camau gweithredu ar unwaith lle bo angen, i'w hamddiffyn a'u cadw'n ddiogel rhag niwed.
Os ydych chi'n poeni bod plentyn neu berson ifanc yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, rhaid i chi roi gwybod am eich pryderon i'ch Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA) lleol isod:
Blaenau Gwent
Ffôn: 01495 315700
E-bost: DutyTeam@blaenau-gwent.gov.uk
Ar ôl 5yp ac ar benwythnosau a gwyliau banc cysylltwch â Thîm Dyletswydd Brys De-ddwyrain Cymru ar 0800 328 4432.
Os ydych chi'n credu bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl uniongyrchol, cysylltwch â'r Heddlu ar 999.