Rhoi gwybod am waith anawdurdodedig

Gwaith Anawdurdodedig

Sut ydw i’n rhoi gwybod am waith adeiladu anawdurdodedig?

Os ydych yn credu bod gwaith adeiladu yn cael ei wneud heb gymeradwyaeth neu sydd ddim yn cyd-fynd â gofynion y Rheoliadau Adeiladu, gallwch gysylltu â’r cyngor trwy ffonio 01495  311556 a gofyn i gael eich rhoi drwyddo i’r adran rheoli adeiladu neu trwy e-bostio:- building.control@blaenau-gwent.gov.uk

Gofynnir ichi ddarparu cymaint o wybodaeth ag y gallwch megis cyfeiriad, lleoliad a natur y gwaith os ydych yn gwybod. Bydd hyn yn ein helpu i ymdrin â’r cwyn yn gyflym.

Cyfrinachedd

Mae cwynion am waith anawdurdodedig a thorri rheolau’n cael eu trin yn gwbl gyfrinachol. Os byddwch yn cyflwyno cwyn i ni, ni fyddwn yn pasio’ch manylion ymlaen at berchennog yr adeilad.

Byddai’n ddefnyddiol pe gallech ddarparu’ch manylion cyswllt oherwydd mae’n bosib bydd angen rhagor o wybodaeth neu eglurhad arnom am y cwyn.

Gwybodaeth Gyswllt

Rheoli Adeiladu
01495 364848
Rheoli Adeiladu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy, NP23 6DN


Building.control@blaenau-gwent.gov.uk