Gwasanaeth Cymorth Dyled Cronfa Cymorth Cwsmeriaid Dŵr Cymru
Cynlluniwyd y cynllun Cymorth Dyled Cronfa Cymorth Cwsmeriaid i helpu’r rhai sydd mewn caledi ariannol difrifol i glirio ac ymdopi gyda’u taliadau.
I gael mwy o wybodaeth ewch i Cynllun Cymorth Dyled y Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid | Dŵr Cymru Welsh Water (dwrcymru.com)
Cynllun Cymorth Debyd Uniongyrchol Dŵr Cymru
Os ydych mewn caledi ariannol a bod gennych ddyled i Dŵr Cymru gallai’r cynllun hwn eich helpu drwy dalu eich costau dŵr a dyled drwy eich budd-dal.
I gael mwy o wybodaeth ewch i: Cynllun Cymorth Dyled Dŵr Uniongyrchol | Dŵr Cymru Welsh Water (dwrcymru.com)
Tariff HelpU
Mae tariff HelpU yn helpu aelwydydd incwm isel drwy roi uchafswm ar y swm mae’n rhaid i chi dalu am ddŵr.
I gael mwy o wybodaeth ewch i Tariff HelpU | Dŵr Cymru Welsh Water (dwrcymru.com)
Terfyn Bil - WaterSure Cymru
Os oes gennych fesurydd yn barod, neu wedi gofyn am hyn, mae tariff Terfyn Bil – WaterSure Cymru yn rhoi terfyn ar y swm sy’n rhaid i chi ei dalu am eich dŵr.
Mae’n rhaid i chi fod â mesurydd dŵr neu ddewis cael gosod mesurydd. Mae’n rhaid i chi fod yn derbyn budd-dal gymwys neu gredyd treth a naill ai:
- â 3 neu fwy o blant dan 19 oed yn byw yn eich cartref y gallwch hawlio budd-dal plant ar eu cyfer.
- ag aelod o’ch aelwyd gyda chyflwr meddygol sydd angen defnydd sylweddol o ddŵr ychwanegol.
I gael mwy o wybodaeth ewch i Tariff Terfyn Bil - WaterSure Cymru | Dŵr Cymru Welsh Water (dwrcymru.com)
Cael trafferth talu am Danwydd
Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar gael, ond weithiau mae'n anodd gwybod beth yw e neu ble i ddechrau felly rydyn ni wedi llunio'r llyfryn hwn i helpu. Cliciwch yma i weld.
Os ydych ar fesurydd cyn talu, yn cael trafferth ac angen cymorth neu gyngor pellach, ewch i'n hybiau cymunedol lle bydd un o'n cynghorwyr ar gael i'ch cefnogi.
Cliciwch ar y ddolen https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/hybiau-cymunedol-blaenau-gwent/ i ddod o hyd i Hwb yn agos atoch chi.