Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn Ymweld â Institiwt Glynebwy (EVI)

Chwith i dde: Marco Gil-Cervantes (Prif Weithredwr ProMo-Cymru), Sue Harris (Rheolwr Menter Gymdeithasol ProMo-Cymru), Tara Lane (Cyngor Blaenau Gwent), AS Alun Davies (AS Blaenau Gwent), Syr Robert Buckland (Ysgrifennydd Gwladol Cymru) a Sian Tucker (Rheolwr Canolfan EVI)

Mae’r Gwir Anrh Robert Buckland QC AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi bod yn ymweld â EVI yng Nglynebwy i weld nifer o brosiectau sydd yn cael eu cefnogi gan y Gronfa Adnewyddu Cymunedol ym Mlaenau Gwent.

Mae EVI yn darparu cyfleoedd i wella iechyd a lles ac yn datblygu hyfforddiant a chyfleoedd profiad gwaith. Roedd EVI a ProMo-Cymru (gwarcheidwaid EVI) yn hapus iawn i siarad gyda Syr Robert Buckland yn ystod ei ymweliad.

Mae Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU wedi cefnogi EVI i ailagor ei ddrysau i’r cyhoedd ar ôl cau yn rhannol yn ystod y pandemig. Mae’r tîm wedi bod yn brysur yn datblygu gwasanaethau, hyfforddiant, a gweithgareddau i gefnogi Glynebwy a chymunedau ehangach Blaenau Gwent. Daeth dros 350 o aelodau’r gymuned i helpu dathlu ailagor EVI gydag wythnos yn llawn gweithgareddau a gweithdai am ddim i bob oedran. Ymwelwch â’n gwefan i ddarganfod mwy www.evi.cymru

Mae’r ailddatblygiad wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU, yn gwobrwyo £260,782 o gyllid i EVI. Mae hyn wedi caniatáu i EVI gyflwyno amrywiaeth o ddosbarthiadau, gweithdai a digwyddiadau llesiant a diwylliannol, hyfforddiant achrededig, datblygu mentrau cymdeithasol, gweithgareddau teuluol, cefnogaeth sgiliau busnes a digidol, lleihau ôl troed carbon ac agor caffi cymunedol!

Cafodd yr Ysgrifennydd Gwladol ei dywys o amgylch yr adeilad, yn siarad gyda staff, gwirfoddolwyr, ac aelodau’r gymuned am ganlyniadau positif yr arian yma. Rhannwyd pa mor brysur yr oeddent yn datblygu gwasanaethau, cyfleoedd hyfforddiant, a llawer o weithgareddau eraill i gefnogi Glynebwy a chymunedau ehangach Blaenau Gwent. Rhannodd y tîm eu cynlluniau i sefydlu banc bwyd, brwydro yn erbyn gwastraff bwyd, clybiau cinio i deuluoedd, dosbarthiadau iechyd a lles, cyfleoedd hyfforddiant… a sefydlu côr!

Dywedodd Marco Gil-Cervantes, Prif Weithredwr ProMo-Cymru, “Rydym yn ddiolchgar iawn am yr arian o Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU, sydd, ynghyd â chefnogaeth Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Blaenau Gwent a’r Loteri Fawr, wedi helpu’r canolfan elusennol, cymunedol a diwylliannol yma i symud ymlaen. Rydym yn falch iawn o gael croesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru yma heddiw i gael dangos ein gwaith cymunedol.”

Dywedodd cynrychiolydd o’r Cyngor Sir, “Roedd yn wych i gael gweld y prosiectau sydd yn derbyn arian gan y Gronfa Adnewyddu Cymunedol heddiw ac i gael gweld y gwaith ffyniant pwysig sydd yn digwydd mewn cymunedau fel Glynebwy. Mae’r gwaith ac ymroddiad y tîm yn EVI, a phawb arall sydd yn cynnig cefnogaeth iddynt, wedi creu argraff fawr. Mae’r gwaith yma mor bwysig. Rwy’n eu llongyfarch am fod yn benderfynol i ddarparu gwasanaethau, hyfforddiant a gweithgareddau i helpu pobl i gael gwaith ac i wella iechyd a llesiant ym Mlaenau Gwent.”