Ysgolion i symud i Ddysgu o Bell o 10 Rhagfyr

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi penderfynu heddiw, gyda chefnogaeth unfrydol penaethiaid ysgolion y fwrdeistref, i symud i ddysgu o bell ar gyfer pob disgybl o ddydd Iau 10 Rhagfyr 2020. Mae’n bwysig sylweddoli, er y bydd clwydi y safleoedd eu hunain yn cau ar ddiwedd y diwrnod gwaith ddydd Gwener 9 Rhagfyr, y bydd ysgolion yn parhau i ddarparu addysgu a dysgu ansawdd uchel ond y byddant yn gwneud hynny drwy dechnolegau digidol, tebyg i lwyfan Hwb Llywodraeth Cymru.

Gwnaed y penderfyniad ar budd gorau llesiant disgyblion a’u teuluoedd a gan gydnabod bod achosion o COVID-19  ym Mlaenau Gwent yn parhau ymysg yr uchaf yng Nghymru. Mae’r penderfyniad yn sicrhau y gall dysgu barhau tan ddiwedd y tymor, ac mae hefyd yn gostwng y posibilrwydd y bydd angen i ddisgyblion hunanynysu dros gyfnod y Nadolig. Ar hyn o bryd, os cânt eu dynodi fel bod wedi mewn cysylltiad ag achos a gadarnhawyd o Coronafeirws gan system Profi Olrhain Diogelu y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mae angen iddynt hunanynysu am 14 diwrnod llawn yn unol â’r canllawiau. Mae hyn yn golygu ynysu llwyr ac nid dim ond peidio dod i’r ysgol.

Mae nifer gynyddol o achosion o ddisgyblion a staff yn gorfod hunanynysu oherwydd iddynt fod mewn cysylltiad â rhywun a gafodd brawf positif – a nawr effeithiwyd yn y ffordd hon gan 18 o ysgolion, gyda 900 disgybl yn gorfod hunanynysu ar hyn o bryd.,

Bydd y dull hwn yn sicrhau y gall ysgolion gadw eu darpariaeth ar gyfer dysgwyr, a chaiff ei gefnogi gan weithwyr iechyd proffesiynol yn gweithio ar ymateb Covid ym Mlaenau Gwent. Mae cynlluniau cadarn yn eu lle ar gyfer dysgu gartref ar gyfer pob grŵp blwyddyn ym mhob ysgol a bydd staff addysgu yn parhau i weithio i ddarparu addysgu a dysgu o bell  nes daw’r tymor i ben ddydd Gwener 18 Rhagfyr 2020. Mae penaethiaid ysgol yn glir y bydd y dull hwn yn sicrhau y gall dysgu barhau ac, yn wir, gael ei wella tan ddiwedd y tymor.

Gwneir trefniadau ar gyfer teuluoedd sydd â hawl i brydau ysgol am ddim i dderbyn taliadau uniongyrchol ar gyfer y cyfnod hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol Addysg ar Gyngor Blaenau Gwent:

“Rydym wedi cysylltu a gwrando ar arweinwyr ein hysgolion am weddill y tymor hwn a does gennym ddim amheuaeth fod hwn y penderfyniad hollol gywir ar gyfer dysgwyr a’u teuluoedd, gan roi’r cyfle gorau iddynt beidio bod yn yn wynebu’r Nadolig wedi hunanynysu.

Mae ein holl ysgolion wedi gweithio mor galed eleni i ddatblygu cynlluniau cynhwysfawr dysgu o bell a dysgu cyfunol ar gyfer disgyblion, a chafodd y rhain eisoes eu rhoi ar waith lle bu’n ofynnol i ddisgyblion hunanynysu. Bydd staff addysgu yn parhau i gynnig cefnogaeth tan ddiwedd y tymor.

Mae staff ysgolion wedi gweithio mor galed i gefnogi dysgwyr drwy gydol y flwyddyn anodd iawn, yn ystod y cyfnod clo llawn a hefyd pan ailagorodd ysgolion i ddarparu amgylcheddau dysgu diogel a chroesawus y tymor hwn. Rydym yn ddiolchgar am eu gwaith caled a’u hymroddiad i blant a phobl ifanc y Fwrdeistref Sirol hon.”

Ymgynghorodd y Cyngor yn llawn gyda phob pennaeth ysgol oedd yn unfrydol wrth gefnogi’r symud i ddysgu o bell.

Bydd ysgolion unigol yn cysylltu gyda rhieni i roi mwy o wybodaeth am y cynlluniau ar gyfer dysgu o bell.

Bydd cefnogaeth ar gyfer y disgyblion hynny sy’n derbyn prydau ysgol am ddim hefyd yn parhau drwy’r system Taliadau Uniongyrchol.