Ysgolion Blaenau Gwent yn cael £66,000 o grantiau STEM

Mae ysgolion uwchradd ym Mlaenau Gwent wedi derbyn dros £66,000 o gyllid grant o raglen Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru i brynu offer newydd i hybu addysgu gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.

Gwnaeth ugain ysgol ym Mlaenau Gwent a thair ysgol ym Merthyr gais llwyddiannus am hyd at £3,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Cafodd y ceisiadau llwyddiannus gyllid ar gyfer amrywiaeth o offer o ffyrnau aerglos a chyfrifiaduron Raspberry Pi i sesiynau post-mortem ar-lein ac argraffwyr 3-D siocled, i gyd wedi eu cynllunio i helpu dod â phrofiadau gwaith go iawn i’r ystafell ddosbarth. Cafodd y ceisiadau eu cloriannu gan banel oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS), Diwydiant Cymru, Cydlynydd Hwyluso STEM Cymoedd Technoleg a Llywodraeth Cymru.

Mae’r grantiau i ysgolion yn rhan o weithgaredd llawer ehangach Hwyluso STEM Cymoedd Technoleg, ymrwymiad o £570,000 dros bedair blynedd gan Lywodraeth Cymru. Nod y prosiect yw cynyddu’r nifer sy’n dilyn TGAU STEM ar Gyfnod Allweddol 3 a chadw’r diddordeb hwnnw ar Gyfnod Allweddol 4.

Y brif nod yw annog astudio pynciau STEM ar ôl 16 oed, a all wedyn arwain at yrfaoedd sgil uchel, cyflog isel mewn meysydd STEM. Bydd yr offer y bydd yr ysgolion yn ei brynu yn helpu i ddod â gwyddoniaeth a mathemateg yn nes at y disgyblion drwy ddangos sut y gellir eu cymhwyso i fyd gwaith. Mae gwaith Hwyluso STEM yn helpu dod ag ysgolion a busnesau ynghyd i godi uchelgais a pharatoi disgyblion ar eu taith i fyd gwaith sy’n ategol i’r Cwricwlwm i Gymru.

Dywedodd llefarydd ar ran y beirniaid:
“Roedd yr holl gynigion yn wirioneddol gryf ac yn dangos dealltwriaeth glir o’r cysylltiadau rhwng pynciau TGAU a diwydiant. Un enghraifft yw Ysgol Sefydliadol Brynmawr a gyflwynodd gynnig i brynu llechi iPad i ddylunio dyfais lanio ddiogel ar gyfer wy! Cysylltodd yr ysgol y prosiect hwn i waith Safran Seats yng Nghwmbrân, un o gwmnïau mwyaf strategol bwysig Cymru. Teimlent y byddai’r offer yn helpu dysgwyr i ddeall grymoedd, cyflymder a symudiad i baratoi ar gyfer TGAU Ffiseg a Pheirianneg. Roedd hefyd geisiadau yn cysylltu’r offer newydd gyda’r sector bwyd. Cynigiodd Ysgol Gyfun Tredegar gynnwys “dull Heston Blumenthal at wyddor coginio” er mwyn hyrwyddo dulliau dadansoddi cemegol, labordy a thechnoleg bwyd.'

Roedd y cais hefyd yn cysylltu gyda gweithgareddau eraill Cymoedd Technoleg tebyg i Brosiect Peirianneg Cymoedd Cymru, a gaiff ei redeg gan yr Academi Brenhinol ar gyfer Peirianneg a’i gyllido gan Ymddiriedolaeth Panasonic a’r rhaglen Cymoedd Technoleg. Y llynedd gweithiodd y prosiect hwn gyda 54 ysgol a 15 busnes i ddatblygu a darparu heriau STEM tymor o hyd yn yr ystafell ddosbarth yn unol ag anghenion y cwricwlwm a chyflogwyr.

Dywedodd y Cyng Sue Edmunds, Aelod Cabinet Cyngor Blaenau Gwent dros Bobl ac Addysg:
“Mae hyn yn newyddion gwych ac rwy’n croesawu’r cyllid ychwanegol hwn ar gyfer ein hysgolion i helpu dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae’n hanfodol ein bod yn codi uchelgais ein dysgwyr i goleddu technolegau sy’n esblygu drwy’r amser fel eu bod yn cael mynediad i swyddi sgil uchel y dyfodol.”

Meddai Vaughan Gething, Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru:
“Rwyf wrth fy modd yn gweld ysgolion ym Mlaenau Gwent yn cael y gefnogaeth maent ei hangen i hyrwyddo pynciau STEM i Gyfnodau Allweddol 3 a 4. Drwy Raglen Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru, rydym yn gweithio gyda diwydiant ac yn dod â phrofiadau gwaith dilys i’r ystafell ddosbarth ac yn hyfforddi’r genhedlaeth nesaf i weithio yn swyddi sero net y dyfodol er mwyn sicrhau Cymru gryfach, decach a gwyrddach.”