Ysgol Gynradd Rhos-y-Fedwen yn manteisio o gyllid gwella ysgol

plant yn eistedd yn y man chwarae tu allan

Bydd Ysgol Gynradd Rhos-y-Fedwen yn manteisio o gyllid Cymunedau Dysgu Cynaliadwy i wella ei chyfleusterau yn cynnwys cae chwarae 3G newydd, ailwampio ystafelloedd dosbarth a chreu gofod synhwyraidd ac ystafell sgiliau bywyd.

Mae Cyngor Blaenau Gwent a Llywodraeth Cymru yn cydweithio ar Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (gynt Ysgolion yr 21ain Ganrif), a gynlluniwyd i foderneiddio’r stad ysgolion ar draws Cymru ac, fel y cyhoeddwyd yn ddiweddar, i greu gofod addysgol mwy cynaliadwy. Mae’r ysgol hefyd wedi gwneud defnydd gwych o’u Grant Ysgolion Bach a Gwledig gan Lywodraeth Cymru, gan brynu offer technoleg gwybodaeth a bws mini newydd ar gyfer cludo disgyblion.

Fel rhan o’r Rhaglen Band B, dros tua’r 18 mis nesaf bydd gwaith helaeth yn mynd rhagddo yn Rhos-y-Fedwen yn cynnwys:

  • Ailwampio ystafelloedd dosbarth y Cyfnod Sylfaen gan greu mynediad uniongyrchol i’r iard chwarae
  • Creu gofodau addysgu hyblyg ac ystafell synhwyraidd yn y Cyfnod Sylfaen
  • Creu ystafell sgiliau bywyd ar gyfer disgyblion i ddysgu coginio a hefyd weithredu fel gofod cwrdd cymunedol
  • Gwaith ar y neuadd i wella acwsteg a gosod llwyfan newydd i’w gwneud yn fwy hyblyg
  • Creu cae 3G ar gyfer yr ysgol a gwella byw egnïol ar gyfer timau a fydd ar gael i’w logi ar ôl yr ysgol
  • Ailwampio ystafelloedd dosbarth
  • Creu gofodau addysgu hyblyg yn y brif ysgol
  • Ailwampio’r fynedfa
  • Ardal chwarae newydd yng nghwrt mewnol yr ysgol

Dywedodd Sarah Helm, Pennaeth yr ysgol:

“Mae hwn yn amser mor gyffrous i Ysgol Gynradd Rhos-y-Fedwen ac rwyf mor falch dros ein disgyblion gwych, y teuluoedd a’r staff ein bod yn cael yr holl welliannau rhagorol yma.

“Mae ein ysgol hyfryd yng nghalon y gymuned yma yn Rasa a rydym wirioneddol eisiau darparu’r cyfleusterau gorau oll a fedrwn i’n plant ar gyfer dysgu, tyfu a ffynnu. rydym hefyd eisiau cysylltu gyda’n teuluoedd a’r gymuned leol a darparu gweithgareddau all-gwriciwlaidd a chyfleoedd llesiant. Fedrwn ni ddim aros i rannu’r gwaith gyda phawb pan fydd wedi ei orffen.”

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Gweithrediaeth Pobl ac Addysg y Cyngor:

“Amcanion Rhaglen Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif yw cyfarch blaenoriaethau addysgol sy’n cynnwys codi safonau, yn neilltuol ar Gyfnod Allweddol 4, gwella addasrwydd a chyflwr ein hysgolion, annog cynaliadwyedd a diwallu anghenion dysgwyr bregus.

“Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau y gall ein dysgwyr gael mynediad i’r cyfleusterau modern gorau oll ac mae gennym hanes amlwg o lwyddiant mewn cyflawni prosiectau fydd yn galluogi ein disgyblion i gael mynediad i amgylcheddau dysgu modern a deniadol ar gyfer ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn.”