Ysgol Brynmawr yn mynd yn solar

Cafodd paneli solar gyda’r gallu i ddarparu 60kw o bŵer eu gosod yn Ysgol Sylfaen Brynmawr.

Mae Egni Coop newydd orffen gwaith ar y paneli solar cyntaf i gael eu gosod mewn ysgol yn ardal Blaenau’r Cymoedd.

Dywedodd Gerald McNamara, Pennaeth yr ysgol:

“Mae Brynmawr yn cymryd ei chyfrifoldebau at yr amgylchedd o ddifri calon. Mae disgyblion yn hollol angerddol i ostwng effaith yr ysgol ar yr amgylchedd. Rydym yn falch iawn fod yr ysgol wedi medru gostwng ei ôl-troed carbon a gweithio mewn partneriaeth gyda menter gydweithredol yng Nghymru i osod ynni solar i ostwng ein heffaith ar yr amgylchedd. Deallwn y bydd y paneli solar yn cynhyrchu dros 50,000kWh y flwyddyn – a bydd gan hyn arbediad carbon o 18 tunnell fetrig o CO2.

Mae gennym hefyd ddiddordeb mawr mewn dadansoddi’r data a gynhyrchir ar y porth gwefan solar yn ein gwersi ac asesu sut mae gwahanol fathau o dywydd yn effeithio ar faint o ynni y bydd y paneli solar yn ei gynhyrchu.

Bydd yr ysgol hefyd yn derbyn gwerth £500 o gyfranddaliadau am ddim yn y Coop, gan sicrhau ffrwd incwm  i’r ysgol a gallwn ddefnyddio hyn yn ein gwaith ar addysg entrepreneuriaeth gyda’r disgyblion. Mae’n gyfle gwych i ddeall sut mae’r model busnes cydweithredol yn gweithio ac i ddisgyblion fynychu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Egni a digwyddiadau eraill os dymunant, gan gymryd rhan yn llywodraethiant y fenter gydweithredol.”

Bydd yr ysgol hefyd yn cael budd o gost is na phris y farchnad am bob uned o ynni a ddefnyddir o’r ynni adnewyddadwy, yn hytrach na ffynonellau heb fod yn adnewyddadwy.

Dywedodd Ruby, Blwyddyn 11, o Eco-bwyllgor yr Ysgol:

“Mae gennym ddiddordeb mawr mewn gweithio allan faint o drydan y bydd y paneli solar yn ei gynhyrchu. Yn ogystal ag arbed arian i’r ysgol, rydym hefyd yn arbed yr amgylchedd.”

Meddai Rosie Gillam, Cyfarwyddwr Egni:

“Hoffem ddiolch i’r disgyblion am eu brwdfrydedd drwy gydol y prosiect ac i’r staff am hwyluso’r gwaith gosod. Rydym yn datblygu amrywiaeth o ddeunyddiau addysgol ac yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Ysgol Sylfaen Brynmawr i gynnal gwersi gyda’r disgyblion, i esbonio sut mae’r dechnoleg yn gweithio a gobeithio ysbrydoli rai peirianwyr solar ar gyfer y dyfodol!”

Ychwanegodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol Addysg Cyngor Blaenau Gwent:

“Fel Cyngor rydym yn bwriadu gostwng ein ôl-troed carbon a dod yn fwrdeistref carbon is a gwn y byddwn yn gweithio’n agos gyda’n hysgolion ar y darn pwysig yma o waith. Mae’n hanfodol fod pawb yn cydweithio i ddiogelu ein hamgylchedd felly rwyf wrth fy modd fod un o’n hysgolion wedi cymryd yr awenau i gyflwyno ynni adnewyddadwy, ac edrychaf ymlaen at iddynt fwynhau’r buddion y bydd yn eu rhoi.”