Ymgynghoriad ar y Strategaeth Adnoddau a Gwastraff ddrafft 2026 - 2031

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn ymgysylltu â chymunedau ar Strategaeth Adnoddau a Gwastraff ddrafft newydd 2026 – 2031. Mae'r strategaeth yn nodi gweledigaeth hirdymor ar gyfer cynyddu ailgylchu, lleihau gwastraff, cefnogi ailddefnyddio a thrwsio, a symud tuag at wasanaeth carbon is yn y dyfodol.

Mae gan y strategaeth bum nod allweddol:

  • Ymgysylltu â'r gymuned ar ailgylchu
  • Cynyddu cyfleoedd ailddefnyddio a thrwsio
  • Cyrraedd y targed ailgylchu o 70%
  • Lleihau ôl troed carbon y gwasanaeth
  • Buddsoddi mewn seilwaith sy'n addas ar gyfer y dyfodol

Mae'r Cyngor eisiau clywed gan bobl am eu harferion ailgylchu a phrynu ac unrhyw rwystrau y gallent eu hwynebu wrth gymryd rhan mewn cynlluniau, yn ogystal â sut maen nhw'n teimlo am ddefnyddio opsiynau ailddefnyddio a thrwsio, a all helpu gyda chyllidebau cartrefi hefyd. Bydd busnesau ac ysgolion lleol hefyd yn cael eu hannog i ymgysylltu a rhoi eu barn.

Dywedodd y Cynghorydd Tommy Smith, Dirprwy Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Amgylcheddol:

"Rydyn ni wedi gwneud cynnydd da iawn gydag ailgylchu yma ym Mlaenau Gwent, ac rydyn ni’n falch o'r ffordd y mae ein cymunedau wedi ymuno a'n cefnogi felly diolch yn fawr iddyn nhw. Fodd bynnag, mae bob amser mwy y gallwn ei wneud i wella, ac rydyn ni eisiau clywed gan ein trigolion, busnesau ac ysgolion ar sut y gallwn ni i gyd wneud hyn gyda'n gilydd. Rydyn ni’n gwybod y gallai 51% o ddeunyddiau sy’n cael eu rhoi mewn biniau sbwriel gael eu hailgylchu, gan gynnwys 23% o wastraff bwyd, sy'n costio dros hanner miliwn o bunnoedd y flwyddyn mewn ffioedd gwaredu. Mae gwella ein perfformiad ailgylchu yn bwysig i ni gyrraedd targedau cenedlaethol, ond yn bwysicach fyth i’n hamgylchedd a chenedlaethau'r dyfodol."

Fel rhan o'r ffordd hon ymlaen, mae'r Cyngor yn archwilio cyfleoedd newydd fel cyflwyno casgliad plastig hyblyg wrth ymyl y ffordd, mwy o siopau ailddefnyddio a chaffis trwsio, a gwelliannau i'w ddau safle ailgylchu a'i fflyd cerbydau.

Bydd yr ymgynghoriad yn helpu i siapio pa newidiadau sy'n cael eu cyflwyno yn gyntaf, a sut maen nhw’n cael eu cyflwyno’n lleol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Smith:

"Mae'r strategaeth hon yn cefnogi ein blaenoriaethau i ymateb i'r argyfwng natur a hinsawdd ac i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel. Mae'r ymgynghoriad yn gyfle i'n cymunedau ddweud eu dweud ar y camau nesaf a helpu i lunio dyfodol gwasanaethau ailgylchu yma ym Mlaenau Gwent. Drwy weithio mewn partneriaeth, rydyn ni’n hyderus y gallwn leihau gwastraff, cynyddu ailddefnyddio ac ailgylchu, a bod yn Flaenau Gwent wyrddach."

Gall preswylwyr rannu eu barn trwy arolwg ar-lein, a thrwy gopïau papur yn ein Hybiau Cymunedol mewn llyfrgelloedd.

I ddarganfod mwy cliciwch yma.

Bydd yr arolwg yn cau am hanner nos ddydd Sul, 12 Ebrill 2026.