Diogelu hawliau plant yn y gweithle

Mae’n Fis Ymwybyddiaeth Cyflogi Plant ac mae Cyngor Blaenau Gwent yn atgoffa busnesau sy’n cyflogi plant rhwng 13 a 16 oed eu bod angen trwyddedau i gydymffurfio gyda chyfreithiau cyflogaeth. Mae’r trwyddedau hyn yn rhad ac am ddim gan y Cyngor y mae’r man cyflogaeth wedi ei leoli ynddo.

Ni chaniateir i unrhyw blentyn dan 13 oed weithio yng Nghymru os nad ydynt yn cymryd rhan mewn perfformiad a bod ganddynt drwydded perfformiad.

Cynhelir ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol ym mis Ebrill, pan fydd cyflogwyr yn atgoffa cyflogwyr fod plant rhwng 13 a 16 oed angen trwyddedau gwaith i’w galluogi i wneud gwaith rhan-amser.

Lles plant yw’r peth pwysicaf oll ac os ydynt yn cymryd rhan mewn cyfleoedd gwaith rhan-amser, mae angen i ni sicrhau y caiff eu hanghenion eu diwallu gan gyflogwyr a bod plant sy’n gweithio yn gwneud hynny yn ddiogel.

Yn ystod y mis bydd swyddogion y Cyngor yn ymweld â mannau busnes ar draws y fwrdeistref i sicrhau fod pobl ifanc mewn swyddi rhan-amser yn ddiogel ac yn gweithio’n gyfreithiol.

Dan is-gyfreithiau sy’n rheoleiddio cyflogi plant a masnachu stryd gan rai dan 18 oed, a gyflwynwyd dros 50 mlynedd yn ôl, gall pobl ifanc rhwng 13 a 16 oed gymryd rhan mewn gwaith ysgafn mewn nifer o wahanol feysydd yn cynnwys gwaith siop, gwaith swyddfa a gweithio mewn caffes, bwytai, golchi ceir a stablau marchogaeth.

Ni chaniateir cyflogi unrhyw blentyn cyn 7am neu ar ôl 7pm ar unrhyw ddiwrnod. Ni all unrhyw blentyn weithio am fwy na 4 awr heb egwyl 1 awr o leiaf ac ni all unrhyw blentyn weithio am fwy na 2 awr ar ddydd Sul rhwng 7am a 7pm o’r gloch.

Yn ystod y tymor, ni fedrir cyflogi unrhyw blentyn am fwy na 12 awr yr wythnos ac mae hefyd ganllawiau eraill am y nifer o benwythnosau ac oriau yn ystod amserau gwyliau y gall plant weithio.

I gael mwy o wybodaeth ewch i https://www.nncee.org.uk/