Wythnos Twristiaeth Cymru 2022 - Staffio a Sgiliau yn allwedd i lwyddiant

I ddathlu Wythnos Twristiaeth Cymru 2022 bu Nick Smith AS, Alun Davies AoS a’r Cynghorydd John Morgan yn mynd o amgylch yn ymweld â safleoedd ac atyniadau twristiaeth, gan siarad gyda’r diwydiant am y problemau sy’n eu hwynebu a beth sy’n cael ei wneud i’w goresgyn. Mae twristiaeth ym Mlaenau Gwent yn gynyddol bwysig yn economaidd a chymdeithasol, mae’n cyfrannu llawer at yr economi busnes lleol ac fe wnaeth yr ymweliadau gadarnhau’r gefnogaeth wleidyddol i dwristiaeth yn lleol.

Ymwelodd Nick Smith AS â Pharc Bryn Bach, Tredegar i glywed am rai o’r llu o weithgareddau antur, tebyg i badl-fyrddio sefyll lan, sydd ar gael ar y llyn ynghyd â gweithgareddau eraill ar y tir.

Mae Steve Hughes, Rheolwyr Dyletswydd Safle, yn cyflwyno gweithgareddau i grwpiau ac unigolion a dywedodd:
“Mae’r parc yn boblogaidd drwy’r flwyddyn gyda gweithgareddau ond mae cynnydd enfawr yn yr haf. Gallem wneud gyda mwy o staff i gyflwyno gweithgareddau antur gan fod cymaint o alw amdanynt a rydym yn edrych ar ddatblygu prentisiaethau i lenwi’r bwlch.”

Dywedodd Nick Smith AS:
“Rwy’n credu mai Parc Bryn Bach yw’r peth agosaf i nefoedd ar y ddaear ac rwyf yma y rhan fwyaf o benwythnosau ar gyfer Parkrun, sy’n wirioneddol boblogaidd ac sy’n croesawu ymwelwyr o bob rhan o Brydain bob wythnos. Mae’n dda gweld Hamdden Aneurin yn gwneud ymdrechion cryf i sicrhau hyfforddedig yn y parc. Roedd disgyblion Ysgol Gymraeg Bro Helyg yn cael amser gwych yma ac rwy’n siŵr y bydd llawer o rai eraill yn eu dilyn yn fuan.”

Ymwelodd Alun Davies AoS â Phentref Tyleri ger Llynnoedd Cwmtyleri. Ar ôl cerdded o amgylch y llyn, siaradodd gyda Ralph Connor a’r staff am eu prosiect. Sefydlwyd Pentref Tyleri lai na blwyddyn yn ôl gyda deg o aelodau staff yn gyfrifol am arlwyo, gwaith amgylcheddol a gweinyddiaeth. Mae’r tîm o weithwyr Kick Start, yn gweithio o fewn eu meysydd, wedi sefydlu ased gymunedol lewyrchus sydd wedi ennill sgiliau o farchnata i hylendid bwyd a hyd yn oed godi waliau sychion.

Dywedodd Alun Davies AoS:
“Mae defnydd da yn cael ei wneud yn lleol o’r sgiliau newydd hyn ac maent yn rhoi’r arbenigedd i bobl ifanc y mae’r diwydiant lletygarwch yn eu mynnu. Mae cynhwysion a gyrchir yn lleol ac yn foesegol tebyg i ffa coffi Mad Dog a gaiff eu rhostio yng Nglynebwy yn gostwng milltiroedd bwyd ac yn blasu’n wych hefyd”.

Ymwelodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Gweithredol Lle ac Adfywio â Daniel Jones, rheolwr y Tredegar Arms, a dywedodd:
“Roedd yn dda clywed gan Dan nad oes problemau staffio yma gyda’r holl staff creiddiol yn dal yn eu lle ers ei agor. Mae hyn yn adlewyrchiad o’r amgylchedd gwaith a’r ffordd mae’r busnes hwn yn trin ei weithwyr. Mae gan y Tredegar Arms enw da gyda staff hapus a chwsmeriaid hapus yn profi yn rysáit am lwyddiant.”

   
Alun Davies AoS yn ymweld â Llynnoedd Cwmtyleri, Abertyleri.   Y Cynghorydd John Morgan yn ymweld â’r Tredegar Arms, Tredegar.   Nick Smith AS yn ymweld â’r safle ogofa newydd ym Mharc Bryn Bach, Tredegar.
         
   
Nick Smith AS gyda grŵp gweithgaredd Padl-fwrdd Tiki ym Mharc Bryn Bach, Tredegar.   Alun Davies AoS (ar y dde) yn clywed mwy am brosiect Pentref Tyleri ger Llynnoedd Cwmtyleri gan Ralph Connor (chwith).   Nick Smith AS (canol) gyda Steve Hughes (ar y dde) , Rheolwr Dyletswydd Saflea Skye, Hyfforddydd Gweithgaredd Antur yn un o’r llu o weithgareddau antur ym Mharc Bryn Bach, Tredegar.