Trawsnewidiad o Stryd Somerset, Abertyleri.

Diolch i'r trigolion, busnesau a chynghorwyr lleol a ymunodd â ni ar gyfer ein gweddnewidiad o Stryd Somerset, Abertyleri. Fel rhan o hwb tref wythnos, cafodd y stryd ei chau a'i thrin i ddisgleirio go iawn diolch i bawb a ddaeth draw id helpu. Paentiwyd dodrefn stryd a murluniau, glanhawyd yr ardal, lapiwyd siopau gwag i edrych yn fwy deniadol a gosodwyd bunting. Roedd yr holl ddeunyddiau yn lleol.

Mae'r hwb wedi bod yn gweithio gyda busnesau a'r gymuned leol i archwilio sut y gellir annog pobl i'r dref. Bydd Stryd Somerset unwaith eto ar gael i gerddwyr ar gyfer tymor yr haf.

Fel rhan o Fargen Blaenau Gwent, rydym yn gweithio'n wahanol gyda chymunedau ac yn gofyn iddynt weithio gyda ni a bod yn fwy gysylltiedig â'r lle maen nhw'n byw.