Teuluoedd Dechrau Deg yn dysgu Cymraeg yng Nhwm.

Mae grŵp o rieni o Gwm, sy'n defnyddio cyfleusterau'r Dechrau Deg, wedi penderfynu dysgu Cymraeg i gefnogi addysg ddwyieithog eu plant. Byddant yn mynychu cwrs tair wythnos a ddarparwyd gan Ddysgu Cymraeg sydd yn dechrau ar y 6ed o Fehefin.

Bydd y cwrs yn cyflwyno'r dysgwyr i sgiliau sylfaenol y Gymraeg, megis cyfarch, cyflwyniadau, rhifau, lliwiau, ac ymadroddion teuluol bob dydd. Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i roi sylfaen iddynt i ddysgu'n well a'u helpu i gyfathrebu â'u plant yn y Gymraeg. Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim ac yn agored i bob teulu yn yr ardal.

Mynegodd y rhieni eu diddordeb i ddysgu Cymraeg ar ôl gweld post ar y cyfryngau cymdeithasol gan Ddechrau Deg, sy'n cynnig ystod o wasanaethau i deuluoedd â phlant dan bedair oed, megis gofal plant, ymweliadau iechyd, cymorth i rieni a datblygiad iaith gynnar. Mae gan lawer o'r rhieni blant sy'n mynychu ysgolion neu feithrinfeydd cyfrwng Cymraeg, ac maent am ymuno â nhw yn eu taith ddwyieithog.

‘Mae hyn yn syniad hyfryd, mae’n neis gweld mwy o ddiddordeb gan bobol, yn yr iaith Cymraeg’

‘Dwi â diddordeb mawr mynychu’r cwrs. Mae fy mhlentyn yn 4 ac yn cywiro fi pam byddwn yn trio siarad Cymraeg’

Dywedodd dau riant

Darparwyd y cwrs gan Ddysgu Cymraeg Cymru, sef y darparwr cenedlaethol o gyrsiau Cymraeg ar gyfer oedolion yng Nghymru. Maent yn cynnig cyrsiau ar bob lefel, o ddechreuwyr i uwch, mewn gwahanol leoliadau a fformatau. Maent hefyd yn darparu adnoddau a gweithgareddau ar-lein i gefnogi cynnydd dysgwyr.

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn falch iawn bod y teuluoedd yn cael eu cefnogi i ddysgu Cymraeg. Nid yw byth yn rhy hwyr i ddechrau dysgu iaith newydd, a gall ddod â llawer o fuddion, megis gwella eich hyder, eich iechyd meddwl a'ch rhagolygon gyrfa. Gall dysgu Cymraeg hefyd gryfhau'ch cysylltiad â'ch plant a'ch cymuned.

Am fwy o wybodaeth am y cwrs, ewch i https://learnwelsh.cymru/ 

Am fwy o wybodaeth am Ddechrau Deg, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Blaenau Gwent: 08000 32 33 39.