Strategaeth Plant sy’n Derbyn Gofal Blaenau Gwent yn mynd yn groes i’r duedd

Cafodd Stategaeth Plant sy’n Derbyn Gofal Blaenau Gwent i ostwng yn ddiogel y nifer o blant sydd yn derbyn gofal ei gweithredu yn 2017. Roedd hyn mewn ymateb i’r nifer cynyddol o blant oedd yn mynd i’r systemau gofal bryd hynny. Cafodd y dull gweithredu ei werthuso, ei ddiwygio a’i ail-lansio fel strategaeth pum mlynedd yn 2020.

Dangosodd adborth diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru fod strategaeth Blaenau Gwent yn effeithlon iawn er mwyn gostwng y nifer o blant sy’n dod i ofal yn raddol ac yn ddiogel.

Mae hyn yn digwydd ar yr un amser â bod llawer o awdurdodau eraill yn parhau i weld cynnydd ac mae dull gweithredu Blaenau Gwent yn mynd yn groes i’r tueddiad o gynnydd yn y niferoedd.

Dywedodd y Cyng John Mason, Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae’n wych gweld fod ein Strategaeth Gostwng yn Ddiogel y Nifer o Blant sy’n Derbyn Gofal wedi ei gydnabod yn gadarnhaol gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae hyn yn wir ganmoliaeth. Mae’n galonogol gweld y cynnydd a wnaed y dull gweithredu hwn wrth ostwng nifer y plant sy’n ymuno â’r system gofal.”

Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar atal, rheoli risg hyderus ac opsiynau lleoliad ansawdd uchel ac mae wedi ennill ei blwyf ar draws yr holl adran. Nodwyd bod ymroddiad ac ymgysylltiad y  gweithlu yn elfen allweddol o lwyddiant.