Straeon gofalwyr maeth Blaenau Gwent yn dangos y gall pawb ‘ddod â rhywbeth i’r bwrdd’ i gefnogi plant lleol mewn gofal.

Mae mwy na 7,000 o blant yn y system gofal yng Nghymru, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth.

Ar hyn o bryd mae 103 o blant mewn gofal maeth ym Mlaenau Gwent.

Heddiw, mae Maethu Cymru – y rhwydwaith cenedlaethol o dimau maethu 22 awdurdod lleol Cymru – wedi gosod y nod o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026 i ddarparu cartrefi croesawgar ar gyfer plant a phobl ifanc leol.

Mae Maethu Cymru Blaenau Gwent wedi ymuno ag ymgyrch newydd, ‘dod â rhywbeth i’r bwrdd’, gan ddefnyddio eu hased fwyaf – y gofalwyr maeth cyfredol – i rannu profiadau realistig o ofal maeth ac ymchwilio’r nodweddion bach ond pwysig sydd gan bobl a all wneud byd o wahaniaeth i berson ifanc mewn gofal.

Siaradodd Maethu Cymru gyda dros 100 o bobl i ddatblygu’r ymgyrch – yn cynnwys gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, aelodau o’r cyhoedd a phobl ifanc sydd wedi gadael gofal.

Soniodd yr ymatebion gan y grwpiau hyn am dri pheth allweddol sy’n atal darpar ofalwyr rhag gwneud ymholiadau:

  • Diffyg hyder yn eu sgiliau a’u gallu i gefnogi plentyn mewn gofal
  • Y gred nad yw maethu yn gydnaws gyda rhai ffyrdd o fyw.
  • Camsyniadau am y meini prawf i dod yn ofalwr.

Gyda’r wybodaeth hon yn gefn iddynt, mae Maethu Cymru wedi defnyddio straeon go iawn am ofalwyr yng Nghymru i ddangos fod maethu i’r awdurdod lleol yn hyblyg, cynhwysol ac yn dod gyda hyfforddiant a chyfleoedd datblygu proffesiynol helaeth.

“Roedd yr holl sgiliau roeddem eu hangen i ddod yn ofalwyr maeth gennym yn barod – ac mae angen i fwy o bobl wybod fod y sgiliau ganddyn nhw hefyd”

Bu Sharon a Gareth yn ofalwyr maeth ym Mlaenau Gwent am 25 mlynedd, gan gynnig lleoliadau tymor byr a hefyd dymor hir. Mae Sharon a Gareth yn credu ei bod yn gymorth bod yn ‘dwym, gofalgar a medru eirioli dros y plant yn eu gofal’, ond maent hefyd yn credu nad yw’n rhaid i gefndir unigolyn fod yn rhwystr, gan ddweud y gall gofalwr maeth fod ‘eich person cyffredin ar y stryd, rhywun a fu efallai mewn gofal eu hunain neu sydd wedi goresgyn materion ffordd o fyw o fewn eu teulu eu hunain’.

Cymru yn arwain y ffordd mewn gwasanaethau plant

Mae Cymru yn y broses ar hyn o bryd o newid y system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant. Roedd y newidiadau a gynigiwyd yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn gwneud ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal’.

Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y caiff gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru ei ddarparu gan y sector cyhoeddus, mudiadau elusennol neu nid-er-elw, ac mae mwy o angen gofalwyr maeth awdurdod lleol nag erioed.

Bydd yr ymgyrch yn dechrau ddydd Llun 8 Ionawr ar y teledu, gwasanaethau ffrydio, radio, digidol, cyfryngau cymdeithasol a gyda gwahanol ddigwyddiadau mewn cymunedau lleol ar draws Cymru.

I gael mwy o wybodaeth am faethu neu i wneud ymholiad ewch i:

Maethu ym Mlaenau Gwent | Maethu Cymru Blaenau Gwent (blaenau-gwent.gov.uk)

Neu ffoniwch neu anfon e-bost at Bethan, ein swyddog recriwtio, ar 07966487592 neu fostering@blaenau-gwent.gov.uk