Rhybudd Blaenau Gwent Ar Fasnachwyr Twyllodrus

Mae Swyddogion Safonau Masnach ym Mlaenau Gwent yn rhybuddio’r cyhoedd a’r gymuned fusnes i fod ar eu gwyliadwriaeth ar ôl derbyn cwynion gan breswylwyr yn honni iddynt gytuno ar gontractau garddio, adeiladu a gwaith to o ansawdd gwael iawn am bris llawer rhy uchel.

Clywodd Safonau Masnach am gwmni symudol sy’n gwneud gwaith ar doeau, llwybrau, lonydd a gwaith adeiladu cyffredinol yn yr ardal heb roi manylion eu cyfeiriad llawn ar waith papur y contract, gan felly ei gwneud fwy neu lai yn amhosibl i gwsmeriaid weithredu eu hawliau statudol unwaith maent wedi talu a’r masnachwyr wedi gadael yr ardal.

Dywedodd y Cynghorydd Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd ar Gyngor Blaenau Gwent:

“Rydym yn cynghori’n gryf nad yw pobl yn ymrwymo i gontract gyda phobl sy’n galw ar garreg y drws gan y gall fod yn anodd iawn cael unrhyw iawndal wedyn os yw pethau’n mynd o le a bod safon y gwaith yn wael. Peidiwch â chael eich hudo gan unrhyw gynigion sy’n ymddangos yn rhy dda i fod y wir – maen nhw fel arfer!”

Mae Safonau Masnach Blaenau Gwent yn rhybuddio fod masnachwyr twyllodrus yn:

• Aml yn defnyddio pobl werthu ddigywilydd i gynnig gwasanaethau gwella cartrefi rhad tebyg i waith trwsio toeau a gwteri. Gallant fod yn gredadwy iawn a chodi ofn drwy ddweud fod angen brys am y waith. Weithiau maent yn fwriadol yn achosi mwy o ddifrod wrth asesu’r gwaith.

• Codi pris mawr am waith ansawdd gwael ac atgyweiriadau nad oes eu hangen. Maent yn aml yn mynnu symiau mawr o arian ymlaen llaw ac yn cynyddu’r pris wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen. Weithiau maent yn mynnu gyrru pobl i’w banc i roi pwysau arnynt i dynnu eu harian allan o’r banc.

• Hoffi rhoi’r argraff eu bod yn gwmni dilys felly caiff eu henw masnach yn aml ei ddangos ar eu faniau a gwaith papur, ynghyd â rhifau cyswllt ffôn a chyfeiriadau e-bost. Yn aml iawn ni fyddant yn rhoi cyfeiriad daearyddol ond hyd yn oed pan roddir hynny, bydd yn aml yn gyfeiriad anghywir neu’n gyfeiriad sy’n bodoli ond heb fod â chysylltiad â’r busnes. Yn y pen draw, nid ydynt eisiau i chi wybod pwy ydynt ond byddant yn rhoi’r argraff eu bod yn rhoi gwybodaeth lawn am y cwmni.

Beth ddylai cwsmeriaid ei wneud i’w diogelu eu hunain?

1. Peidio byth â chytuno i gael gwaith wedi’i wneud neu dalu i fasnachwyr ar garreg eich drws.

2. Cael dau amcanbris ysgrifenedig gan o leiaf ddau fasnachwr ar gyfer unrhyw waith.

3. Defnyddio eich perthnasau a ffrindiau a chael argymhellion am fasnachwyr da sy’n gwneud gwaith safon uchel ac sydd â chyfeiriad busnes lle gellir cysylltu â nhw os yw pethau’n mynd o chwith.

4. Bod yn ofalus iawn am ddefnyddio masnachwyr nad ydych yn gwybod dim byd amdanynt hyd yn oed os ydych yn dod o hyd iddynt ar y rhyngrwyd a’i bod yn ymddangos fod ganddynt wefan go iawn gyda chwsmeriaid yn dweud pethau da amdanynt, gan y gallai hyn fod yn gelwydd.

5. Gwirio’r busnes mewn cymaint o ffyrdd ag y gallwch. Edrychwch am ymateb ar-lein ar enw’r cwmni ac edrych ar gymaint o safleoedd ag sy’n bosibl. Gwiriwch hefyd fod cyfeiriad y cwmni a roddwyd yn ddilys ac yn gywir ar gyfer y busnes. Cymerwch rif cofrestru cerbyd y masnachwr a gofyn am dystiolaeth am bwy yw’r perchennog.

6. Os cytunwch i waith a’i fod yn dechrau ond daw’n amlwg nad dyna’r hyn y gwnaethoch ofyn amdano neu ei fod o ansawdd gwael iawn dywedwch wrth y masnachwr am stopio ar unwaith a pheidio rhoi unrhyw arian iddynt nes i chi gael ail farn gan fasnachwr arall. Mae gennych hawliau statudol dan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015 i’r gwaith fod o ansawdd boddhaol, yn addas i’r diben ac fel y cafodd ei ddisgrifio.

7. Mae gennych 14 diwrnod i ganslo unrhyw nwyddau neu wasanaethau a brynwch yn eich cartref am dros £42.  Mae masnachwr yn cyflawni trosedd os na wnaethant roi hysbysiad ysgrifenedig i chi am sut ac i bwy y mae’n rhaid hi chi gysylltu â nhw i ganslo.

8. Dylech bob amser gytuno ar y pris, trefniadau talu a’r dyddiadau dechrau/gorffen cyn bod unrhyw waith yn dechrau ar eich cartref. Gofynnwch am enw llawn y masnachwr a’u  manylion banc fel eich bod yn gwybod gyda phwy yr ydych yn gwneud contract. Osgowch dalu mewn arian parod.

9. Peidiwch â thalu yn llawn nes eich bod yn hollol fodlon gyda’r gwaith.
10. Cadwch eich cartref a’ch eiddo yn ddiogel pan fydd gwaith yn mynd yn ei flaen.

11. Os credwch i chi gael eich twyllo, yn bryderus am fasnachwr neu os oes gennych unrhyw amheuon ffoniwch 101 neu’r Llinell Gymorth Defnyddwyr ar 0808 223 1133.