Rhoddwr plasmafferesis cyntaf Cymru yn cefnogi galwad am fwy o roddwyr yng Nghymru i gamu ‘mlaen

Mae'r rhoddwr cyntaf yng Nghymru i roi plasma drwy broses 'plasmafferesis' newydd Gwasanaeth Gwaed Cymru, yn galw ar ddynion eraill sydd wedi gwella o COVID-19 i ystyried rhoi eu plasma i gefnogi treialon meddygol.

Gwyliwch ein fideo

Mae treialon clinigol yn cael eu gwneud ar hyn o bryd i archwilio p’un a ellid defnyddio plasma llawn gwrthgyrff cleifion sydd wedi gwella o Covid-19 i drin cleifion mewn ysbytai sy'n sâl gyda'r feirws.

Andrew Thomas, un o swyddogion heddlu Heddlu De Cymru, oedd y rhoddwr cyntaf yng Nghymru i roi ei blasma drwy'r broses plasmafferesis yn Nhonysguboriau. Meddai: "Nôl ym mis Mehefin, cefais Covid-19 ond diolch byth, rwyf wedi gwella ohono erbyn hyn. Nid oedd yn brofiad dymunol iawn. Roedd gen i dymheredd uchel o hyd at 39.6, a blinder oedd y peth mwyaf i mi.

"Roeddwn yn ymwybodol o'r rhaglen rhoi plasma ymadfer, felly pan gysylltwyd â mi i roi plasma, cofrestrais ar unwaith. Roeddwn eisiau gwneud rhywbeth a allai helpu rhywun oedd yn mynd drwy'r un peth a wnes i."

Mae dynion sydd wedi cael symptomau Covid-19 ond sydd wedi bod heb symptomau am 28 diwrnod yn gallu rhoi plasma mewn un o ddwy ffordd: drwy roi gwaed yn y ffordd arferol, neu drwy broses o'r enw plasmafferesis.

Mae'r broses plasmafferesis yn defnyddio offer arbenigol i dynnu'r plasma o waed rhoddwr, ac yna, yn dychwelyd y celloedd coch. Gallwch roi plasma drwy blasmafferesis yn safleoedd Gwasanaeth Gwaed Cymru yn Nhonysguboriau a Wrecsam.

Mae rhoi gwaed drwy blasmafferesis yn caniatáu i roddwyr roi hyd at ddwy uned o blasma bob pythefnos. Dim ond bob 12 wythnos y gellir rhoi plasma drwy waed cyflawn.

Ychwanegodd Andrew: "Roeddwn i'n teimlo'n hollol ddiogel, ac ni chefais unrhyw anesmwythdra o gwbl yn ystod y broses rhoi plasma. Cymerodd y staff ofal gwych ohonof, ac roeddent yn broffesiynol iawn.

"Roeddwn i'n teimlo'n wych ar ôl rhoi plasma. Mae'r ffaith y gallwn fod wedi rhoi cyfle i rywun wella o COVID-19 yn gwneud i mi deimlo’n falch iawn. Erbyn hyn, rwyf wedi rhoi chwe uned o blasma yn ystod tair rhodd, ac rwyf wedi gwneud apwyntiad i roi fy mhedwaredd rhodd yn barod.

"Buaswn yn annog unrhyw un arall sydd wedi gwella o Covid-19 i ddod i roi plasma. Nid yw’n boenus, mae'n gyflym, ac mae’n rhywbeth gwych i’w wneud. Gyda'n gilydd, gallwn fod yn gryfach a gallwn drechu hyn, felly os ydych chi wedi contractio Covid-19, rwy'n eich annog chi i helpu."

Ynghyd â gwasanaethau gwaed eraill y DU, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn casglu plasma ymadfer i'w ddefnyddio mewn dau dreial mawr ar draws y DU i geisio trin coronafeirws – sef RECOVERY a REMAP-CAP.

Mae canlyniadau cychwynnol o’r astudiaethau wedi darganfod bod lefelau gwrthgyrff plasma a oedd yn ddigon uchel i’w trallwyso ac a allai achub bywydau, yn fwy tebygol o ddod o gleifion gwrywaidd oedd wedi gwella o COVID-19, sydd wedi bod yn ddifrifol wael.

Nawr, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn annog unrhyw ddynion sydd wedi gwella o COVID-19 neu sy'n credu eu bod nhw wedi cael achos heb ei gadarnhau o'r salwch, i ddod ymlaen a rhoi plasma.

Meddai Alan Prosser, ar ran Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: "Mae'r canlyniadau rydyn ni'n eu gweld o dreialon clinigol y DU gyfan yn golygu ein bod ni eisiau clywed gan ddynion rhwng 17 a 70 oed*, gan mai'r dystiolaeth hyd yn hyn yw bod dynion yn cael eu heffeithio'n fwy difrifol gan y coronafeirws ac felly, yn cynhyrchu mwy o wrthgyrff.

"Os ydych chi wedi gwella o haint neu'n meddwl eich bod chi wedi cael achos heb ei gadarnhau o COVID-19 a'ch bod chi heb unrhyw symptomau rhagor, plîs, helpwch y GIG yn y frwydr yn erbyn y feirws hwn."

Os ydych chi'n ddyn sydd wedi gwella'n ddiweddar o Covid-19, ffoniwch 0800 252 266 neu ewch i welshblood.org.uk i wneud apwyntiad i roi rhodd a allai achub bywydau.