Pwyllgor Craffu yn cefnogi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 10-mlynedd

Cafodd Aelodau’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu gyfle i roi eu sylwadau ar ddrafft Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor, sy’n nodi sut mae’n anelu i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y fwrdeistref drwy addysg.

Mae’r Pwyllgor yn ymgynghorai statudol yn yr ymgynghoriad a gaiff ei gynnal tan y Flwyddyn Newydd. Cefnogodd y Pwyllgor y drafft gynllun yn ei gyfarfod ddydd Mawrth 30 Tachwedd 2021.

Gall unrhyw un roi sylwadau ar y cynllun, sy’n rhedeg ar-lein tan 3 Ionawr. Mwy o wybodaeth yma -
https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/council/policies-plans-strategies/welsh-in-education-strategic-plan-2022-32-consultation/

Ymgynghorir hefyd gydag ysgolion, cyrff llywodraethu, y Fforwm Addysg Gymraeg, awdurdodau lleol cyfagos, sefydliadau addysg bellach, Comisiynydd y Gymraeg, Estyn a thimau blynyddoedd cynnar.

Prif nod y Cynllun yw gweithio gydag ystod o bartneriaid i greu ‘Cymuned ym Mlaenau Gwent sy’n cofleidio’r iaith Gymraeg a’i diwylliant gyda hyder a balchder.’

Mae’r Cynllun, fydd yn rhedeg o fis Medi 2022 i fis Medi 2032, mewn ffurf ddrafft ar hyn o bryd a bydd yr ymgynghoriad yn helpu i lywio’r cynllun terfynol a anfonir at Lywodraeth Cymru ar gyfer cymeradwyaeth derfynol.

Mae’r Cyngor yn parhau’n ffurfiol gefnogol i uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg a’i strategaeth genedlaethol ‘Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr Cymraeg’.

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins. Aelod Gweithredol Addysg y Cyngor:

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’r Gymraeg ym Mlaenau Gwent. Rydym wedi ymrwymo ac mae gennym gyfle i wella ein system addysg ymhellach, a rydym mewn sefyllfa gref i hwyluso twf a datblygiad parhaus yn yr iaith Gymraeg a hefyd addysg Gymraeg, wrth weithio tuag at Cymraeg 2050.

“Mae gennym weledigaeth, nod a thargedau clir sy’n uchelgeisiol a bydd yn sicrhau safonau’r ddarpariaeth y mae ein dysgwyr a theuluoedd yn eu haeddu. Mae gennym hefyd bartneriaeth gref iawn yn y Fforwm Addysg Gymraeg, ynghyd ag awdurdodau cyfagos. Gan gydweithio, gallwn a medrwn adeiladu ar lwyddiannau Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017-20 Blaenau Gwent.

“Rwy’n falch fod y Pwyllgor Craffu heddiw wedi cefnogi’r weledigaeth ar gyfer twf y Gymraeg yn ein bwrdeistref.”