Prentis Gyfrifydd gyda CBS Blaenau Gwent yn cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Cyfrifyddiaeth Cymru

Mae Jordan Harley, sydd ar hyn o bryd yn Brentis Gyfrifydd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Cyllid Cymru 2021 yng nghategori Technegydd Cyfrifon. Bob blwyddyn mae’r gwobrau hyn yn dangos goreuon talent cyllid ledled Cymru ac mae Jordan yn un o’r tri ar y rhestr fer yn y sector yma.

Mae Jordan, sy’n astudio yng Ngholeg y Cymoedd, wedi gorffen ei gymhwyster Lefel 3 Cymdeithas Cyfrifyddiaeth (AAC) yn ddiweddar, nid yn syndod gyda chyfartaledd o 94%. Bydd yn dechrau ar ei gwrs AAC Lefel 4 yn y dyfodol agos ac mae’r Prentis llawn cymhelliant hwn yn awyddus i ddod yn Dechnegydd Cyfrifon gyda chymwysterau llawn.

Dywedodd Jordan:
“Rwyf mor falch i gyrraedd rownd derfynol y wobr bwysig yma a chael cydnabyddiaeth am yr holl waith caled a roddais i fy astudiaethau. Hoffwn ddiolch i Anelu’n Uchel Blaenau Gwent a roddodd gyfle Prentisiaeth i mi gyda CBS Blaenau Gwent, fy nghydweithwyr a thiwtoriaid yng Ngholeg y Cymoedd. Fy uchelgais yw dod yn Gyfrifydd Siartredig ac mae cyrraedd y rownd derfynol yn cyrraedd fel cam arall at gyrraedd fy mreuddwyd”.

Cynhelir y seremoni wobrwyo yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ar 3 Medi a bydd yn cydnabod pawb o Gyfarwyddwyr Cyllid i Brif Swyddogion Ariannol a’r genhedlaeth nesaf o brentisiaid a graddedigion. Fel yr unig ymgeisydd awdurdod lleol i fod ar y rhestr fer eleni mewn unrhyw gategori, mae Jordan yn wirioneddol ar flaen y gad.

Dywedodd Tara Lane, Rheolwr Datblygu Sgiliau Anelu’n Uchel:
“Mae cystadleuaeth frwd i gyrraedd rownd derfynol y wobr hon felly mae bod ar y rhestr fer yn y tri safle uchaf yng Nghymru yn wirioneddol yn gamp ragorol. Mae rhaglen Anelu’n Uchel yn cydnabod pwysigrwydd profiad gwaith ac mae CBS Blaenau Gwent yn croesawu’r dull hwn. Fel enillwyr Gwobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru 2021, rwy’n teimlo fod Jordan yn dangos pa mor bwysig yw Prentisiaethau a’r cyfle a roddant. Hoffwn longyfarch Jordan ar ei le yn y rownd dymunol ac estyn y dymuniadau gorau oll iddo ar gyfer y noson wobrwyo.”

Llun - Jordan Harley (Prentis Cyfrifyddiaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent), sydd yn rownd olaf Gwobrau Cyllid Cymru 2021, yng nghategori Technegydd Cyfrifon.