Platfform Adnoddau newydd ar gyfer staff cartrefi gofal a gofal cartref

Roedd Gwelliant Cymru yn cydnabod y gallai staff cartrefi gofal a staff gofal cartref arbed amser hollbwysig pe byddai modd iddynt gael gafael ar yr wybodaeth ar-lein sydd ei hangen arnynt yn ddyddiol, mewn un lle, naill ai ar ffôn symudol neu gyfrifiadur.

Gweithiodd tîm Gofal Cartref Cymru yn Gwelliant Cymru mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru, i nodi'r wybodaeth y mae angen i staff ei chyrchu, ac yna maent wedi darparu'r dolenni ar Blatfform Adnoddau un stop. 

Mae ar gael ar ap (Saesneg yn unig) a gwefan (ddwyieithog) i'w gwneud hi'n hawdd gweld, dros y ffôn neu fwrdd gwaith, mewn gwahanol leoliadau lle mae staff yn ystod eu sifftiau.  Mae'r dolenni’n cynnwys gwybodaeth am reoli heintiau, nodi dirywiad, iechyd meddwl a llesiant, COVID-19, hyfforddiant, arweiniad a chysylltiadau defnyddiol.

Meddai Rosalyn Davies, Arweinydd y Rhaglen yn Gwelliant Cymru: “Rydym yn falch o allu rhoi cymorth i staff cartrefi gofal a gofal yn y cartref trwy’r platfform digidol hwn. Mae’n galluogi staff prysur i gael mynediad at ddolenni ac adnoddau allweddol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn ystod y cyfnod anodd hwn. Hoffem ddiolch i Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol am eu cyfraniadau a’u cymorth.”

Gellir cael mynediad i’r Platfform Adnoddau trwy:

  • Ap: lawrlwythwch ap HealthZone UK ac yna chwiliwch am Care Home Cymru
  • Gwefan: ewch i dudalen y pecyn cymorth ar wefan Iechyd Digidol yma:https://digitalhealth.wales/care-home-cymru