Parcio yn y Ganolfan Brechu Torfol, Glynebwy

Mae’r gwaith o ledaenu brechiadau Covid-19 yn parhau’n llwyddiannus ar draws Gwent a gyda’r newyddion diweddar fod cymhwyster am yr hwblyn i gael ei ymestyn,  mae ychydig fisoedd prysur o flaen y rhaglen.

Mae’r Ganolfan Frechu Dorfol yn y Swyddfeydd Cyffredinol yng Nglynebwy wedi croesawu miloedd o bobl drwy’r drysau i dderbyn eu brechiad, a bydd yn parhau i fod â rhan allweddol yn y rhaglen o hyn ymlaen.

Mae’n hanfodol ar gyfer llwyddiant y ganolfan fod yr amserlen yn rhedeg yn llyfn er mwyn sicrhau fod y rhai sy’n mynychu’r ganolfan ar gyfer brechiad yn brydlon ar gyfer eu hapwyntiad a hefyd i wneud yn siŵr nad yw ein pobl fwyaf bregus yn cael unrhyw anhawster yn dod i’r ganolfan.

Rydym felly wedi cytuno i neilltuo rhan fach o’r maes parcio yn ymyl yr adeilad ar gyfer y rhai sy’n mynychu ar gyfer apwyntiad yn unig. Mesur dros dro yw hyn a ddefnyddir ar y dyddiau y defnyddir yr adeilad fel canolfan frechu dorfol.

Bydd staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn stiwardio’r ardal a dim ond y rhai a all brofi eu bod yn mynychu am apwyntiad fydd yn cael parcio. Bydd gweddill y maes parcio yn gweithredu ac ar gael yn unol â’r arfer. Gofynnir i chi nodi hefyd fod parcio ar gael gyferbyn yr adeilad ac yn y maes parcio aml-lawr ar safle’r Gweithfeydd.

Diolch ymlaen llaw am eich cydweithrediad a’ch dealltwriaeth.