Nifer cynyddol o gartrefi LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

Mae gofalwyr maeth LHDTC+ yn gyfran llawer mwy o’r gofalwyr yng Nghymru, yn ôl ffigurau newydd.

Mae yna 56 o gartrefi LHDTC+ yng Nghymru, cynnydd o 30% o'i gymharu â 2024. Yn Gwent, roedd gofalwyr maeth LHDTC+ yn gofalu am 15 o blant yn 2025.

Yn ystod yr Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDTC+ hon, sy'n dechrau ar 2ail Mawrth, mae Maethu Cymru Blaenau Gwent yn annog pobl LHDTC+ i ystyried gwneud ymholiadau i ddod yn ofalwyr maeth a newid bywydau yn 2026.

Yn Maethu Cymru Blaenau Gwent ar hyn o bryd mae 201o blant mewn gofal maeth. Gall cyplau neu bobl sengl faethu, ac mae gan nifer o bobl LHDTC+ brofiad bywyd personol unigryw i'w gynnig i ofal plant a phobl ifanc.

Mae'r gofalwyr maeth Aaron a Matte o Flaenau Gwent wedi bod yn gofalu am blant drwy Maethu Cymru ers dros 9 mlynedd ac wedi croesawu mwy na 18 o bobl ifanc i'w cartref. Maen nhw'n dweud eu bod nhw wedi syrthio mewn cariad â maethu o'r lleoliad cyntaf ac wedi gweld drostyn nhw eu hunain y gwahaniaeth y gall cartref cariadus, sefydlog ei wneud i fywyd plentyn. Fel y dywedodd Aaron a Matte "Ewch amdani. Gwnewch yr alwad ffôn gyntaf honno neu gael yr ymweliad cartref cyntaf hwnnw. Does gennych chi ddim i'w golli drwy gysylltu â'r awdurdod lleol a chael rhagor o wybodaeth".

Dywedodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru a Maethu Cymru: “Mae gofalwyr maeth yn gwneud gwahaniaeth eithriadol i blant a phobl ifanc bob dydd trwy gynnig sefydlogrwydd, dealltwriaeth a lle diogel i ffynnu. Maent yn defnyddio eu profiadau bywyd eu hunain, eu tosturi a’u gwydnwch i ddiwallu anghenion unigol pob plentyn. I rai plant, gall gofalwyr maeth eu helpu i symud tuag at fabwysiadu, a fydd yn darparu’r sicrwydd cydol oes yna sydd ei angen arnynt pan nad yw dychwelyd at eu teulu geni yn bosibl.

“Gyda chyn gymaint o blant angen cartrefi cariadus ar hyn o bryd, byddem yn annog unrhyw un sy’n ystyried maethu neu fabwysiadu i ddechrau sgwrs gyda’u tîm lleol heddiw.”

Gallwch ddilyn Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDTC+ ar-lein ac ar Twitter (@lgbtadoptfoster) a Facebook (@newfamilysocial).

Am ragor o wybodaeth am faethu ewch i: https://maethucymru.llyw.cymru/eisoes-yn-maethu/ / Dysgwch fwy am fabwysiadu yng Nghymru: https://adoptcymru.com/hafan/