Mae gan Jack ddyfodol disglair gyda Express Contract Drying

Ymunodd Jack Hayman o Blaenau ag Express Contract Drying (EDC) fel Prentis Beiriannydd Mecanyddol yn gweithio yn Stad Ddiwydiannol Rasa ym mis Gorffennaf 2018. Fe wnaeth hyn ei alluogi i barhau gyda’i astudiaethau coleg a chwblhau ei BTEC Lefel 2 mewn Gwaith Trydanol ac Electronig ac, yn fwy, diweddar, BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Fecanyddol. Roedd y cwmni mor falch o’i agwedd gadarnhaol at waith a’i ymroddiad i astudio fel eu bod yn awr wedi ei gyflogi’n llawn-amser.

Drwy gydol y brentisiaeth, datblygodd Jack set sgiliau rhagorol ac adeiladu portffolio cryf o brofiadau yn cynnwys gweithio ar brosiectau byw i amserlenni penodol, ac mae’n credu i hynny arwain at swydd barhaol yn EDC. Fe wnaeth y cwmni gefnogi Jack ar hyd y broses, gan annog ei addysg a hefyd ei helpu i gwblhau cymwysterau ategol megis cymhwyster mewn weldio.

Bu Anelu’n Uchel Blaenau Gwent, a drefnodd y Brentisiaeth, yno iddo drwy’r amser a dywedodd Jack:

“Mae Anelu’n Uchel fel tîm o unigolion talentog a chyfeillgar wedi rhoi cymaint o hwb i fy ngyrfa. Er y gall y syniad o fynd i fyd gwaith godi ofn ar lawer o bobl, fy mhrofiad i yw pontio llyfn diolch i sut mae Anelu’n Uchel wedi’i drin. Bûm yn ffodus iawn i gael y cyfle hwn ac mae pobl fel Julie Robins (Mentor Anelu’n Uchel) wedi bod yno ar ben arall y ffôn neu neges i ddatrys fy mhroblemau. Pan oedd gen i broblemau nad oedd tiwtoriaid yn y Coleg neu waith yn fynd ar goll, cafodd ei ddatrys yn gyflym ac mewn modd proffesiynol felly diolch am hynny. Hefyd am yr ymarferion adeiladu tîm, maent yn llaewr iawn o hwyl ac mae’n braf cwrdd gyda phobl eraill o’r un anian.

Rwy’n credu fod y rhaglen yn effeithol iawn ac i’r dim ar gyfer ein cymuned a seilwaith lleol. Efallai ryw ddydd y bydd gennyf fy mhrentis fy hun fydd yn dilyn yr un daith ag a wnes i”.

Mae’r cynllun Prentisiaeth yn wirioneddol wedi gweithio i Jack fel canlyniad o roi popeth i’w waith a goresgyn nifer o broblemau personol. Mae cyfuniad o adroddiadau rhagorol gan y coleg a thasgau bywyd go iawn mewn ffatri weithredol wedi ei helpu i gyflawni ei botensial gyrfa. Ar un cam fe wnaeth hyd yn oed gymryd yr awenau a chynllunio bwrdd i gynorthwyo cynhyrchu, a fu’n llwyddiannus iawn. Gwnaeth ansawdd a maint gwaith Jack argraff fawr iawn ar ei Asesydd NVQ.

Oherwydd ymrwymiad Jack drwy gydol ei brentisiaeth cafodd ei enwebu ar gyfer categori ‘Seren Newydd’ yng Ngwobrau Uchel Anelu’n Uchel. Er bod cystadleuaeth frwd o fewn y grŵp, cyflwynodd y beirniaid y teitl iddo gan gydnabod ei waith caled a’i botensial ar gyfer y dyfodol. Yn dilyn y llwyddiant hwnnw, mae Jack yn ddiweddar wedi cael ei gyflogi yn EDC.

Mae pawb yn credu fod gan Jack ddyfodol disglair gyda EDC ac mae wedi profi’n ased wirioneddol iddyn nhw a hefyd i raglen Rhannu Prentisiaeth Anelu’n Uchel Blaenau Gwent.