Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn atgoffa busnesau bwyd Mlaenau Gwent i ganolbwyntio ar safonau diogelwch bwyd ar Ddiwrnod Diogelwch Bwyd y Byd

Heddiw, 7 Mehefin, ar Ddiwrnod Diogelwch Bwyd y Byd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn atgoffa busnesau bwyd Mlaenau Gwent i ganolbwyntio ar ddiogelwch bwyd a phwysleisio bod eu tîm yma i gefnogi busnesau i wella safonau a diogelu defnyddwyr.

Mae swyddogion diogelwch bwyd yn arolygu busnesau bwyd i wirio eu bod yn dilyn cyfreithiau hylendid a diogelwch bwyd fel bod y bwyd yn ddiogel i’w fwyta. Maent yn rhoi sgôr rhwng sero (angen gwella ar frys) i bump (safonau hylendid da iawn) i fusnesau.

Mae arolygiadau yn cwmpasu hylendid a diogelwch bwyd. Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn helpu defnyddwyr i ddewis ble i fwyta allan neu brynu bwyd drwy roi gwybodaeth glir iddynt am safonau hylendid y busnes.

Yn genedlaethol, amcangyfrifir bod tua 2.4 miliwn o achosion o salwch a gludir gan fwyd y flwyddyn, ac mae bacteria gwenwyn bwyd cyffredin yn cynnwys Campylobacter a Salmonela. Mae dwy filiwn o bobl yn y DU yn byw ag alergeddau bwyd; mae gan 600,000 o bobl clefyd seliag, ac mae eraill yn byw ag anoddefiadau bwyd.

Gall busnesau bwyd leihau risgiau diogelwch bwyd drwy fesurau glanhau, rheoli plâu, rheoli diogelwch bwyd a mynd i'r afael â materion amnewid bwyd a all beri risg i bobl ag alergeddau ac anoddefiadau, a phobl eraill sy’n agored i niwed.

Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol Lle a’r Amgylchedd:
“Mae diogelwch bwyd da yn gwneud synnwyr busnes gwell ac yn diogelu defnyddwyr. Yn yr adferiad o bandemig COVID mae’n bwysicach byth ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar safonau diogelwch bwyd uchel ym Mlaenau Gwent.

“Mae gennym wybodaeth a chyngor i gefnogi busnesau bwyd i wella lle mae angen. Rydym yma i gynnal safonau diogelwch bwyd ac yn aqtgoffa busnesau y gall arolygwyr diogelwch bwyd ymweld ar unrhyw amser.”

Meddai Nathan Barnhouse Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru:
“Mae llawer o fusnesau bwyd eisoes yn bodloni safonau hylendid da, a gwyddom fod hyn yn bwysig i ddefnyddwyr sydd am deimlo’n hyderus na fydd y bwyd y maent yn ei ddewis yn eu gwneud yn sâl.

“Gall materion diogelwch bwyd fel gwenwyn bwyd ac achosion o alergenau heb eu datgan, achosi dioddefaint diangen i unigolion, yn ogystal ag effeithio ar eu teuluoedd. Rydym yn gweithio ar y cyd â Chyngor Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent sy’n cefnogi busnesau ac yn eu helpu i ddeall y gofynion rheoleiddio.”

Rhaid i fusnesau bwyd Mlaenau Gwent gofrestru gyda Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent .

Mae’r Sgôr Hylendid yn dangos pa mor dda y mae’r busnes yn gwneud yn gyffredinol, yn seiliedig ar safonau a ganfyddir adeg yr arolygiad. Mae’r sgoriau ar gael ar-lein ac ar sticeri a gaiff eu harddangos ar safle busnesau.

Mae rhagor o wybodaeth i fusnesau bach am weithdrefnau rheoli diogelwch bwyd a rheoliadau hylendid bwyd ar gael ar food.gov.uk.