Mae arolwg Carers UK’s State of Caring 2021 bellach yn fyw

Mae’r Arolwg Cyflwr Gofalu yw ymchwil fwyaf cynhwysfawr y DU i fywydau a phrofiad gofalwyr ac mae arolwg 2021 nawr ar agor.
 
Mae ein hymchwil a’r hymatebion i’n harolygon dros y flwyddyn ddiwethaf wedi ein helpu i dynnu sylw’r cyfryngau at brofiadau gofalwyr ledled y DU. Gyda chymorth gofalwyr, rydym wedi ymgyrchu'n llwyddiannus i gael gwell arweiniad, profion am ofalwyr, PPE ar gyfer gofalwyr di-dâl, “swigod cymorth” gofalwyr ac eithriadau i ganiatáu i ofalwyr gael seibiant. 
 
Roedd gofalwyr hefyd wedi'u cynnwys yn y rhestr flaenoriaeth ar gyfer brechu COVID-19, ac fe wnaethom ymgyrchu am gyngor penodol i gefnogi cyngor i ofalwyr yn jyglo gwaith ar yr un prid a gofalu.
 
Mae gofalwyr sy'n dweud wrthym beth yw eu blaenoriaethau wedi helpu i ni ganolbwyntio ein gwaith a helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i wybod beth sy'n bwysig i ofalwyr. Byddwn yn parhau i ymgyrchu i ofalwyr gael gwell cefnogaeth.
 
Gofynnwn i chi rannu ein harolwg â'ch cefnogwyr lle bynnag y bo modd.  Rydym yn gwerthfawrogi pob un sy'n cymryd yr amser i gwblhau'r arolwg. Gyda'ch gilydd rydych chi'n ein helpu i baentio llun o effaith mae gofalu wedi cael ar eich bywydau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
 
Gellir cwblhau'r arolwg yma https://www.surveymonkey.co.uk/r/NK2Z9LM a bydd yn cau ar 13eg Medi. Yna byddwn yn rhyddhau canfyddiadau a’r adroddiad ymchwil ym mis Tachwedd.