Llyfrau’n mynd mewn cylch i Gynghorau Grŵp CLAIRE Cymru

Mae Grŵp CLAIRE (Awdurdodau Lleol yn Cydweithredu mewn Effeithiolrwydd Adnoddau) Cymru wedi cyhoeddi mai Goldstone Books a wnaeth y cynnig llwyddiannus fel cyflenwr fframwaith ar gyfer casglu deunyddiau cyfryngau i’w hailddefnyddio ac ailgylchu o ganolfannau ailgylchu gwastraff cartrefi a safleoedd cludo.

Mae’r cytundeb fframwaith, dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, yn galluogi ffurfio contractau yn ôl y gofyn gan aelodau CLAIRE Cymru i ddefnyddio’r gwasanaeth rhwng 1 Ebrill 2022 a 28 Chwefror 2025, gyda’r opsiwn i ymestyn am flwyddyn arall.

 
  Rhes flaen - Chris Hilde, Cyngor Sir Caerfyrddin; Lisa Jones, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent; Caroline Davies, Cyngor Sir Caerfyrddin; Sue Gilby, Cyngor Sir Caerfyrddin; Elinor Eynon, Cyngor Sir Caerfyrddin; Jess Clement, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful; Rhes gefn – Ashley Stamford-Plows, Goldstone Books; Scott Jones, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili; James Kay, Resource Efficiency Wales.

Dywedodd y Cyng David Hughes, aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful: “Mae’n dda bod y trefniant hwn yn darparu gwasanaeth i breswylwyr y Fwrdeistref Sirol i gael gwared â llyfrau, CDs a DVDs ail-law mewn modd cynaliadwy, gan alluogi eraill i fanteisio drwy ailddefnyddio’r eitemau. Gan y cafodd y fframwaith, dan arweiniad Cyngor Merthyr Tudful, ei fabwysiadu gan gynghorau eraill yng Nghymru, mae contract effeithiol a safonol sy’n manteisio o arbedion maint.”

Ychwanegodd y Cyng Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithrediaeth Lle ac Amgylchedd: “Mae’r cynllun casglu unigryw hwn yn rhoi oes newydd i CDs, llyfrau a DVDs fel y gallant barhau i gael eu mwynhau, gan hefyd roi man canolog i’w gadael yn ddiogel, eu casglu ac os na fedrir eu defnyddio, eu hailgylchu mewn modd cyfrifol. Nid yn unig mae hyn yn waith partneriaeth rhagorol, ond mae hefyd yn ddatrysiad ailgylchu y gellir ei ddefnyddio ledled Cymru.”

Cynhaliodd Goldstone Books daith safle ddiwedd mis Awst 2022 ar gyfer grŵp o Swyddogion Cyngor, gweler y llun isod. Caiff deunyddiau cyfryngau a gesglir o safleoedd y Cynghorau sy’n aelodau eu cludo i bencadlys Goldstone Books yn Llandybie i gael eu prosesu.

Fel arfer caiff wyth tunnell fetrig o ddeunyddiau cyfryngau eu casglu bob wythnos dan y fframwaith. Caiff yr eitemau yn gyntaf eu didoli’n fras fel naill ai economaidd hyfyw i’w hailddefnyddio (~70%) neu eu hanfon yn syth ar gyfer ailgylchu (~30%). Gall llyfrau nad ydynt ond yn addas i’w hailgylchu fod wedi treulio, difrodi, gwlyb neu deitl sy’n boblogaidd iawn a heb fod yn ddigon uniryw i’w ail-werthu’n fasnachol. Mae angen i CDs a DVDs fod mewn cyflwr rhagorol gyda’r clawr plastig, brandio ac unrhyw waith papur ategol.

Wedyn cynhelir didoli mân a chaiff teitlau eu mewngofnodi ar system meddalwedd Goldstone Books a’u ffeilio ymysg eu 700,000 a mwy o lyfrau ar y silffoedd. Bob dydd mae dros 2,000 o lyfrau yn ail-ymuno â’r economi gan brynwyr ym mhob rhan o’r byd. Mae gan Goldstone Books siop yn Sir Gaerfyrddin lle cafodd llyfrau ail-law eu gwerthu’n uniongyrchol i’r cyhoedd.

Dywedodd Ashley Stamford-Plowys, Sefydlydd, Goldstone Books: “Ni fu’r economi gylch, ailddefnyddio ac ailgylchu erioed yn bwysicach. Rydym felly wrth ein bodd i fod wedi cael ein dewis fel y cyflenwr a ffafrir i barhau i gasglu, ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau gwastraff o dros hanner cant o ganolfannau ailgylchu awdurdodau lleol ledled Cymru, gan sicrhau fod popeth a gasglwn yn ymuno â’r economi gylch neu y cânt eu hailgylchu’n gyfrifol heb ddim yn mynd i domen lanw.

Meddai James Kay, Cydlynydd Gwastraff Rhanbarthol, Resource Efficiency Wales: “Rwy’n wirioneddol falch fod llyfrau, CDs a DVDs yn parhau i gael eu hailddefnyddio a’u hailgylchu yng Nghymru gan Grŵp CLAIRE Cymru. Gyda’n gilydd, rydym yn gweithredu’r hierarchaeth gwastraff, gan cadw mwy o werth yng Nghymru, wrth i ni symud tu hwnt i ailgylchu. Rydym i gyd wrth ein bodd gyda’r cyfleoedd o weithio fel grŵp o gynghorau gyda Goldstone i gynyddu cyfleoedd yr economi gylch yn ystod y fframwaith yma.”

Fel ym mis Hydref 2022 roedd naw o Grŵp CLAIRE Cymru wedi llofnodi ar gyfer y contract yn ôl y gofyn ar gyfer ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau cyfryngau o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi a safleoedd cludo; Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Dinas Caerdydd, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Sir Powys a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.