Llongyfarchiadau i holl enillwyr anhygoel Blaenau Gwent yng Ngwobrau Busnes Torfaen, Sir Fynwy a Blaenau Gwent.
Mae'r gwobrau'n dathlu cymunedau busnes bywiog a ffyniannus Blaenau Gwent, Torfaen a Sir Fynwy - cyfle i gydnabod ymroddiad, arloesedd a chyflawniadau busnesau lleol dros y 12 mis diwethaf.
Meddai'r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet dros yr Economi a Lle yng Nghyngor Blaenau Gwent:
"Roedd yn anhygoel gweld cynrychiolaeth mor gryf o Flaenau Gwent yn ein blwyddyn gyntaf o gystadlu yn y Gwobrau Busnes. Rydyn ni mor falch o'r holl enillwyr ac o bawb a gymerodd ran - mae eich ymroddiad a'ch effaith ar ein cymuned fusnes leol yn rhywbeth i'w ddathlu bob dydd. Da iawn!"
Yr enillwyr o Flaenau Gwent oedd:
- Busnes Creadigol a Digidol y Flwyddyn: Games Alchemist
- Cyflogwr y Flwyddyn: Blackwood Engineering Ltd
- Busnes Gwasanaeth Ariannol a Phroffesiynol y Flwyddyn: Kairos-K LTD, UK
- Busnes Rhyngwladol y Flwyddyn: Insurgo: Tape Media Experts
- Busnes Gweithgynhyrchu y Flwyddyn: M & J Europe LTD
- BBaCh y Flwyddyn: Waldron Commercials
- Busnes Twristiaeth a Lletygarwch y Flwyddyn: Wonder Cinema
- Person Busnes Ifanc y Flwyddyn: Luke Shepard - Luke Shephard Funeral Directors
- Canmoliaeth Uchel: Samantha Fitz-Symonds - Accessible Futures Group Ltd
