Llongyfarchiadau i’r holl ddisgyblion TGAU ym Mlaenau Gwent

Hoffai Cyngor Blaenau Gwent longyfarch ein holl ddisgyblion TGAU am eu llwyddiannau heddiw. Rydym yn falch i gyhoeddi fod myfyrwyr yn ein hysgolion uwchradd wedi cyflawni’n dda eto mewn ystod eang o gymwysterau TGAU, yn unol â’r agenda asesu cenedlaethol ar gyfer Addysg a sefydlwyd ledled Cymru y llynedd mewn ymateb i COVID-19.

Dywedodd y Cyng Joanne Collins, Aelod Gweithredol Addysg ym Mlaenau Gwent:

“Llongyfarchiadau i’n holl ddisgyblion TGAU am eich llwyddiant eithriadol heddiw. Da iawn hefyd a diolch i bawb sy’n ymwneud â chanlyniadau heddiw, yn cynnwys ein staff addysgu gwych, llywodraethwyr ysgolion a rhieni a gofalwyr. Bu hon yn flwyddyn anodd na welwyd ei thebyg ar gyfer yr holl ddysgwyr a’n hysgolion oherwydd pandemig COVID-19. Mae sector addysg Blaenau Gwent wedi gweithio’n rhagorol gyda’i gilydd yng ngwir ysbryd cydweithio ac wedi parhau i gefnogi disgyblion a’u teuluoedd a dylid cydnabod hyn.

Oherwydd pandemig cyfredol Covid-19, cafodd graddau eu dyfarnu gan ganolfannau mewn dull a ddatblygwyd drwy CBAC mewn cysylltiad â Chymwysterau Cymru a sefydliadau addysgol. Rydym yn hollol grediniol mai hwn oedd y penderfyniad cywir i’n disgyblion a’u hathrawon diwyd. Mae ysgolion yn gweithio i wneud yn siŵr fod ein pobl ifanc wedi paratoi’n dda ar gyfer cam nesaf ein taith ddysgu ac estynnwn ein dymuniadau gorau oll iddynt ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Lynn Phillips, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg ym Mlaenau Gwent:

“Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr ym Mlaenau Gwent ac ar draws y rhanbarth, yn arbennig felly yn y cyfnod hwn o newid cenedlaethol ar gyfer Addysg ac wrth gwrs yr ymateb parhaus i bandemig COVID-19. Yn fy marn i mae’r dulliau newydd a fabwysiadwyd gan arweinwyr ac athrawon ein hysgolion i gefnogi dysgwyr yn sicrhau cynnydd a chyflawniad. Mae’r gwaith partneriaeth agos rhwng ein hysgolion, y Gwasanaeth Cyflawni Addysg a’r Cyngor, yn cynnwys gwasanaethau cymorth yn rhoi plant a phobl ifanc yn gadarn wrth galon ein holl waith. Rydym yn parhau i fod yn ymroddedig i sicrhau fod ysgolion a’n dysgwyr yn parhau i gael eu cefnogi’n dda wrth iddynt symud ymlaen drwy’r system addysg o fewn y Fwrdeistref Sirol. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch yn bersonol yr holl ddysgwyr sy’n ymwneud â’r canlyniadau hyn ac estyn y dymuniadau gorau oll iddynt ar eu llwybrau yn y dyfodol.”

Mae Cymdeithas Penaethiaid Ysgolion Uwchradd ac Arbennig Blaenau Gwent wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd fore heddiw am ganlyniadau TGAU a Galwedigaethol.

Dywedant, “Rydym i gyd wrth ein bodd gyda chanlyniadau TGAU a Galwedigaethol eleni. Ar ôl blwyddyn anhygoel o anodd ac aflonyddol i’n holl ddysgwyr, rydym mor falch y cafodd eu gwaith caled a’u hymroddiad ei wobrwyo.

Mae’n bwysig cofio y caiff TGAU eu hastudio dros gyfnod o flynyddoedd ac y bydd y canlyniadau a gawsant wedi eu seilio ar lu o asesiadau mewnol ac allanol. Hefyd bydd pob canlyniad wedi ei gytuno a’i lofnodi gan o leiaf ddau athro a Phennaeth yr ysgol. Felly, er bod canlyniadau eleni yn raddau a benderfynwyd gan y canolfannau, maent mor ddilys ag unrhyw flwyddyn arall. Yn wir mewn llawer o ffyrdd bu’r broses hyd yn oed yn fwy trwyadl nag eistedd un arholiad ar ddiwedd cyfnod hir o astudiaeth.

Fel grŵp rydym yn falch iawn o bob un o’n dysgwyr Cyfnod Allweddol 4 ledled Blaenau Gwent. Buont drwy gyfnod mor anodd ac maent i gyd yn haeddu’r canlyniadau ardderchog a gafwyd ym mhob ysgol. Bydd y canlyniadau hyn yn awr yn arwain at i fwy o fyfyrwyr nag erioed symud ymlaen i addysg ôl-16 a hyfforddiant sy’n sicr yn newyddion da ar gyfer Blaenau Gwent a dyfodol ein cymunedau.”