Llifddorau i'w cynnig i eiddo ym Mlaenau Gwent

Bydd y Cyngor yn cynnig llifddorau i drigolion sy'n byw yn yr eiddo sydd fwyaf mewn perygl yn y cymunedau yr effeithiwyd arnynt gan stormydd blaenorol.

Drwy gyfuniad o gyllid Llywodraeth Cymru a'r Cyngor, bydd y cartrefi a nodir yn Llanhiledd a’r Cwm yn cael cynnig y gatiau a'r gwaith gosod cysylltiedig yn rhad ac am ddim. Bydd y Cyngor mewn cysylltiad â'r rhai sy'n byw mewn eiddo cymwys dros y misoedd nesaf.

Mae'r cynllun wedi'i wneud yn bosibl drwy gais llwyddiannus am £97,750 i Gynllun Grantiau Bach Llywodraeth Cymru, ynghyd â chyfraniad o gyllideb y Cyngor sydd wedi'i ddyrannu i fynd i'r afael â materion llifogydd.

Mae cartrefi yn Llanhiledd a’r Cwm wedi cael eu heffeithio gan lifogydd mewn dwy storm fawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a gyda'r gaeafau’n dod yn fwy eithafol a all effeithio ar lefelau afonydd, mae'r Cyngor yn gweithio gyda'r cymunedau i leihau'r risg lle bo hynny'n bosibl.

Dywedodd y Cynghorydd Tommy Smith, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Amgylcheddol:

"Fel rhan o Fargen Blaenau Gwent rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r cymunedau sydd wedi cael eu dinistrio gan lifogydd o'r blaen. Rydym wedi nodi arian yn ein cyllideb ein hunain eleni, yn ogystal â pharhau i wneud cais am gyllid Llywodraeth Cymru lle bynnag y bo modd.

"Rydym wedi gwneud gwaith i wella’r draeniau yn y ddau bentref, gwella gwytnwch cymunedol trwy hyfforddiant a thrwy ddarparu adnoddau a thrwy gynnig y giatiau llifogydd hyn rydym yn gobeithio rhoi hyd yn oed mwy o sicrwydd i drigolion yn ystod digwyddiadau tywydd yn y dyfodol."