Lansio Grantiau Lluosi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Mae Lluosi yn rhaglen newydd gan lywodraeth y DU i helpu i drawsnewid bywydau oedolion ledled y DU drwy wella eu sgiliau rhifedd gweithredol trwy diwtora personol, hyfforddiant digidol a chyrsiau hyblyg sydd yn rhad ac am ddim.

Nod Lluosi yw i ardaloedd lleol fuddsoddi mewn cyfranogiad ystyrlon sy’n hybu gallu pobl i ddefnyddio mathemateg yn eu bywyd bob dydd, boed gartref neu yn y gwaith – ac sy’n galluogi oedolion i ennill cymwysterau ffurfiol a all agor drysau iddynt (fel dilyniant gyrfa neu symud ymlaen i astudiaeth bellach).

Bydd oedolion sydd angen gwella eu rhifedd (hyd at a chan gynnwys Lefel 2 / SCQF Lefel 5) yn gallu cael mynediad at gyrsiau hyblyg am ddim sy’n cyd-fynd â’u bywydau – boed hynny yn bersonol neu ar-lein, yn y gwaith neu gyda’r nos, yn rhan amser neu mewn cwrs dwys.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn gwahodd sefydliadau i wneud cais mewn proses gystadleuol i gyflwyno gweithgareddau rhifedd pwrpasol i drigolion Blaenau Gwent 19 oed a hŷn nad oes ganddynt gymhwyster Lefel 2 mewn rhifedd ar hyn o bryd, sef TGAU Mathemateg gradd 4/C neu uwch.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 29 Mawrth 2023
Mae ffurflenni cais a chanllawiau ar gael yma.

Dychwelwch eich ceisiadau at: BGCBC-SPF@blaenau-gwent.gov.uk
Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â: BGCBC-SPF@blaenau-gwent.gov.uk

Canllawiau ar Wneud Cais am Grant Lluosi
Ffurflen Gais Lluosi