Lansio Fflat Deallus ym Mlaenau Gwent i Arddangos Technoleg Gynorthwyol Arloesol

DARLLEN: Astudiaethau - Technolegau Cynorthwyol

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion wedi gweithio mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Cartrefi Cymunedol Tai Calon a’r Grŵp Tai Cymunedol i ddatblygu Fflat Ddeallus ym Mlaenau Gwent a gafodd ei lansio’n swyddogol ym mis Tachwedd. Cafodd y Fflat Ddeallus ei chreu i roi cyfle i unigolion, teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol weld y mathau gwahanol o dechnolegau newydd sydd ar gael iddynt a sut y gallant helpu pobl i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hun.

Gallwch weld drosoch eich hun beth gafodd ei osod yn y fflat drwy fynd ar daith rithiol yma.  Mae’r wefan yn rhoi golwg 3D ryngweithiol o amgylch y Fflat Ddeallus fydd yn eich galluogi i ganfod mwy am bob cynnyrch drwy ddim ond clicio ar y botymau gwybodaeth.

Cafwyd ymatebion cadarnhaol tu hwnt gan ein hymwelwyr i’r Fflat Ddeallus. Yn ogystal â staff o’r sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol gwelsom hefyd  Alun Davies, Aelod Blaenau Gwent yn Senedd Cymru, y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Aelod Gweithrediaeth Pobl a Gwasanaethau Cymdeithasol, Cynghorwyr lleol ynghyd â phartneriaid o Cartrefi Cymunedol Tai Calon, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a llawer mwy.

Gwnaeth y dechnoleg yn y fflat argraff fawr ar bawb yn arbennig yr awtomeiddio cartref sy’n galluogi gorchmynion llais (drwy Alexa) i gau ffenestri a llenni yn ogystal â throi goleuadau ymlaen a glanhau lloriau’r ystafell. Roedd yr Ystafell Synhwyraidd hefyd yn boblogaidd gan roi amrywiaeth o ysgogiadau drwy amrywiaeth o oleuadau a lliwiau yn ogystal ag offer therapi dementia tebyg i gathod therapi a HUGS.

Dywedodd y Cynghorydd Trollope fod yr amrywiaeth technoleg yn y Fflat Ddeallus yn rhagorol. “Drwy ddim ond rhoi ychydig o orchmynion syml i ddyfais Alexa cafodd y fflat ei hwfro, cafodd goleuadau eu troi ymlaen, a chafodd ffenestri a llenni eu hagor a’u cau. Gallaf weld hyn o fudd i lawer o bobl yn ein cymunedau yn y dyfodol agos.”

Meddai Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rydym eisiau cefnogi pobl Blaenau Gwent i aros yn eu cartrefi eu hunain a bod mor annibynnol ag sydd modd. Bydd y dechnoleg a ddangosir yn y fflat ddeallus yn cefnogi llawer o bobl i wneud yn union hynny.”

Diolchodd Alun Davies AS i’r tîm am roi amser i ddangos y dechnoleg gynorthwyol yn y Fflat Ddeallus. Meddai Alun: “Roedd yn wych gweld gwaith y Cyngor a phartneriaid ar hyn ac i ddysgu am ddefnydd technoleg yn y ffordd hon. Fedra’i ddim aros i roi cynnig ar y wefan ryngweithiol i ddysgu mwy am y cynnyrch.”

Dywedodd Damien McCann, Prif Weithredwr Interim y Cyngor: “Mae sicrhau fod Blaenau Gwent yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu gwasanaethau ansawdd uchel i ddiwallu anghenion lleol a gwella ansawdd bywyd a llesiant o fewn y gymuned yn amcan bwysig iawn yr anelwn ei chyflawni fel rhan o gynllun corfforaethol y Cyngor. Hoffwn ddiolch i bawb oedd yn gysylltiedig mewn gwneud y prosiect hwn yn llwyddiant mawr a gobeithiaf weld defnydd da o’r gwasanaeth a’r dyfeisiau sydd ar gael.”

Os hoffech wneud ymholiad ffoniwch ni ar 01495 315700 neu anfon e-bost at Christopher.Sainsbury@blaenau-gwent.gov.uk

Montage Llun Fflat Smart PDF