Gwelliannau i Ganol Trefi ar eu ffordd

Fel rhan o raglen ‘Trawsnewid Trefi’ Llywodraeth Cymru, bydd pedair tref Blaenau Gwent – Glynebwy, Tredegar, Brynmawr ac Abertyleri – yn gweld cynlluniau yn cael eu gweithredu i gynyddu nifer y bobl sy’n defnyddio canol y trefi, mynd i’r afael ag adeiladau gwag a sicrhau bod canol ein trefi yn lleoedd diogel i breswylwyr ac ymwelwyr.

Bydd Blaenau Gwent yn derbyn £2.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ailddatblygu i helpu gyda’r trawsnewid. Aiff hyn tuag at brosiectau i gynnal a gwella’r amgylchedd lleol, cynyddu’r defnydd o fusnesau a datblygu amgylchedd sy’n denu pobl i dreulio amser yno.

Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda chanol trefi ar draws Blaenau Gwent i gymryd rhan mewn cynlluniau benthyciadau a grantiau i ganol trefi gyda dros £919,000 o geisiadau llwyddiannus hyd yma.

Mae gwaith ar y ‘Cynlluniau Creu Lleoedd’ yn mynd rhagddo gyda’r cylch cyntaf o ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi’i gwblhau yng Nglynebwy a thrafodaethau dechreuol yn Nhredegar ac Abertyleri. Bydd pob cynllun yn sefydlu gweledigaeth newydd gyffrous ar gyfer y trefi fydd yn helpu i ddenu buddsoddiad newydd a goresgyn yr heriau a achoswyd gan y pandemig. Bydd Wifi am ddim a hyfforddiant ar y cyfryngau cymdeithasol a digidol hefyd ar gael ar gyfer busnesau sydd mor bwysig i sicrhau y gallant fanteisio i’r eithaf ar ddatblygiadau technolegol.

Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd:

“Rydym ar fin dechrau ar gyfnod newydd cyffrous yn natblygiad ein canol trefi fydd yn rhoi hwb gwerthfawr i’n cymunedau a hefyd yr economi. Mae cyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru i helpu trawsnewid ein trefi yn lleoedd bywiog y bydd preswylwyr ac ymwelwyr yn mwynhau ymweld â nhw. Rydym i gyd yn edrych ymlaen at y gwaith adnewyddu fydd yn rhoi’r cyfle gorau posibl i’n busnesau a pherchnogion siopau o lwyddiant yn y dyfodol”.

Yn cyd-fynd â chynlluniau Canol Trefi yn Gyntaf, mae’r cynnig am ddolen rheilffordd i Abertyleri o reilffordd bresennol Cwm Ebwy a fyddai’n cynyddu nifer y bobl sy’n defnyddio canol y dref yn ogystal â hybu cyflogaeth a ffyniant economaidd.