Gweithredu Diwydiannol Undeb Genedlaethol Addysg (NEU)

Efallai y gwyddoch y bydd athrawon yng Nghymru sy’n rhan o NEU yn gweithredu’n ddiwydiannol wedi’i gynllunio ar ddau ddiwrnod ym mis Chwefror (1 a 14) a dau ddiwrnod ym mis Mawrth (15 a 16), gyda’r cyntaf ddydd Mercher 1 Chwefror. Mae hyn yn weithredu cenedlaethol ac yn sefyllfa tu hwnt i reolaeth y Cyngor a’n hysgolion gan fod trafodaethau tâl ac amodau yn digwydd ar lefel genedlaethol.

Bu cydweithwyr addysg yn cydlynu gyda phenaethiaid ysgolion i benderfynu pa effaith a gaiff hyn ar ysgolion ym Mlaenau Gwent. Bydd pob ysgol ym Mlaenau Gwent, heblaw Ysgol Gymraeg Bro Helyg, ar gau i ddisgyblion ar y dyddiau hyn. Bydd ysgolion yn cyfathrebu unrhyw drefniadau ychwanegol neu wybodaeth yn uniongyrchol i rieni/gofalwyr.

Am wybodaeth ynghylch cau ysgolion unigol, ewch i: https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/ysgolion-a-dysgu/school-closures/