Gweinidog Addysg yn ymweld ag Ysgol Gymraeg Bro Helyg

Bu Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg heddiw i weld y gwaith ailfodelu a ariannwyd gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Defnyddiodd yr ysgol yn y Blaenau, Blaenau Gwent, gyllid o raglen Llywodraeth Cymru i ailfodelu’r adeilad, gan greu gofodau mewnol ac allanol i wella’r amgylchedd addysgu a dysgu. Yn fewnol, mae’r ysgol wedi ailwampio eu hystafelloedd newid i fod yn ofodau Synhwyraidd a Maethu, ynghyd ag ystafell STEM a Llyfrgell ac Ystafelloedd Cyfryngau i gefnogi datblygiad disgyblion.

Cafodd y gofodau tu allan eu trawsnewid yn ardaloedd addysgu gyda chanopïau, ardaloedd tarmac i blant chwarae gemau a chreu ardaloedd ysgol goedwig.

Mae Ysgol Gymraeg Bro Helyg yn ail flwyddyn Grant Trochi a sicrhawyd gan Lywodraeth Cymru sy’n cefnogi disgyblion sy’n pontio o ysgol cyfrwng Saesneg i ysgol Gymraeg. Nid yw hi byth yn rhy hwyr  ystyried addysg Gymraeg ar gyfer eich plentyn, ac mae llawer o gefnogaeth ar gael i blant a rhieni sy’n gwneud y newid.

Cafodd Jeremy Miles AS ei gyfarch gan Ann Toghill, Pennaeth yr ysgol, cyn mynd ar daith o’r ysgol i gael teimlad o sut mae’r cyllid wedi trawsnewid y profiad dysgu ar gyfer y plant. Cafodd hefyd gyfle i wrando ar gôr y disgyblion. Mwynhaodd Mr Miles daith o’r ysgol a bu’n tostio malws melys yn yr ardal dysgu awyr agored newydd.

Roedd y Cyng Chris Smith, Aelod Llywyddol Cyngor Blaenau Gwent; y Cyng Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Addysg ; Luisa Munro-Morris, Cyfarwyddwr Addysg Interim a Laura-Beth Flower, Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol hefyd yno i gwrdd gyda’r Gweinidog a mwynhau taith o’r ysgol.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

“Mae adeiladau wedi’u dylunio yn dda ac amgylchedd dymunol mor bwysig i gefnogi dysgwyr a staff, gan gyflawni safonau uchel ac uchelgais i bawb.

"Rwyf eisiau i’n hysgolion fod yn lleoedd ysbrydoledig i ddysgu ac addysgu, i’n disgyblion i ffynnu ac mae Ysgol Gymraeg Bro Helyg yn dangos sut y gellir gwneud hyn.”

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet y Cyngor dros Bobl ac Addysg:

“Roedd yn wych cwrdd gyda’r Gweinidog, Jeremy Miles AS heddiw, ac ymuno ag ef ar daith o’r ysgol a’r ardaloedd dysgu newydd gwych.

“Mae’n amser mor gyffrous ar gyfer addysg Gymraeg yma ym Mlaenau Gwent, ac roedd yn wych dangos hynny i’r Gweinidog heddiw. Rydym yn hollol ymroddedig i weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer twf y Gymraeg a darparu mwy o gyfleoedd ac opsiynau ar gyfer dysgu Cymraeg. Rydym yn ymgynghori ar hyn o bryd ar gynnig i gynyddu capasiti ar gyfer disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol a fyddai, os caiff ei gymeradwyo, yn gweld canolfan adnoddau ADY gyda 15 lle yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg o fis Medi y flwyddyn nesaf.

“Mae hefyd ysgol egin Gymraeg mewn adeilad newydd yn dod i Dredegar, fydd yn cael ei lleoli dros dro yn Nhŷ Bedwellte ar gyfer disgyblion Meithrin a Dosbarth Derbyn ym mis Medi 2023. Mae hon yn ysgol egin sy’n rhannu trefniadau llywodraethiant gydag Ysgol Gymraeg Bro Helyg a bydd adeilad newydd yr ysgol yn cael ei defnyddio o dymor yr Hydref 2024.”