Gwasanaethau Llyfrgell yn cyflawni safonau uchel eto

Mae llyfrgelloedd ym Mlaenau Gwent yn parhau i gyflawni’r 12 hawl creiddiol a nodir yn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.

Croesawodd cynghorwyr yng Nghyfarfod Cabinet Cyngor Blaenau Gwent adroddiad ar berfformiad y gwasanaeth sydd hefyd yn dangos y bu cynnydd yn nifer y benthycwyr cyson a’r llyfrau a fenthycwyd.

Cafodd Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin ei gomisiynu gan y Cyngor i redeg y Gwasanaeth Llyfrgell ar draws Blaenau Gwent ac mae llyfrgelloedd yn Abertyleri,  Blaenau, Brynmawr, Cwm, Glynebwy a Tredegar ynghyd â’r gwasanaeth symudol yn cefnogi’r holl sir. Dan Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964 mae’n ddyletswydd statudol ar bob awdurdod llyfrgell (awdurdodau lleol yng Nghymru) i ddarparu ‘gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithiol ar gyfer pob person sy’n dymuno eu defnyddio’.

Mae Safonau Llyfrgell Gwasanaeth Cymru yn cynnwys 12 hawl creiddiol ac ystod o ddangosyddion ansawdd. Mae’r fframwaith hwn yn rhoi dull i alluogi gwasanaethau i gynllunio darpariaeth, gosod safonau ac arddangos eu gwerth o fewn cymunedau lleol. Mae hefyd yn galluogi Llywodraeth Cymru i asesu perfformiad gwasanaethau llyfrgell ar lefel genedlaethol.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Pobl ac Addysg y Cyngor:

“Cafodd llyfrgelloedd ym Mlaenau Gwent eu bywiogi ac maent yn wirioneddol yng nghalon ein cymunedau, gan gynnig llawer mwy na dim ond llyfrau. Maent hefyd yn gartref i Hybiau Cymunedol y Cyngor, gan ddod â help a chymorth gyda’n gwasanaethau yn nes at y bobl sydd eu hangen.

“Mae’r Cabinet yn croesawu’r adroddiad hwn ac yn gwerthfawrogi’r holl waith caled sy’n mynd rhagddo i wneud llyfrgelloedd a’u gwasanaethau yn ddeniadol i bobl o bob oed.”

Ychwanegodd Tracy Jones, Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgelloedd Blaenau Gwent (Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin):

“Mae’r tîm wedi gweithio’n galed i sicrhau fod pawb yn cael croeso cynnes i’r llyfrgelloedd, ac rydym yn neilltuol o falch i weld cynifer o bobl o wahanol oed yn dod drwy ddrysau’r llyfrgelloedd. Mae hyn yn adlewyrchu’r llu o wasanaethau a gynigiwn a’r cynlluniau sydd gennym ar waith tebyg i lyfrgelloedd chwaraeon, y grŵp Cymraeg newydd a’r gweithgareddau gwahanol niferus a gynhaliwn.

“Rydym yn parhau i weithio ar ffyrdd newydd y gallwn gefnogi’r gymuned a rydym yn ymchwilio llawer o syniadau i wella ein gwasanaeth ymhellach.”