Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar gyfer Rheoli Cŵn

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn cynnig adnewyddu ei Orchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar gyfer ymarfer cŵn a glanhau baw cŵn ar dir ym mhob rhan o’r fwrdeistref. Croesewir sylwadau ar y cynigion gan bob aelod o’r cyhoedd sydd â diddordeb.

Mae’r Gorchymyn ar gyfer Rheoli Cŵn yn anelu i helpu perchnogion i ymddwyn yn gyfrifol mewn ardaloedd a gaiff eu mwynhau gan eraill. Mae’n amlinellu gofynion a chyfyngiadau ar gyfer perchnogion cŵn ac yn sicrhau y gall holl breswylwyr Blaenau Gwent fwynhau’r mannau agored a gaiff eu rhannu.

Cyflwynwyd y Gorchymyn presennol ym mis Tachwedd 2019 am gyfnod o 3 blynedd a daw i ben yn ddiweddarach eleni. Fe wnaeth greu ardaloedd gwahardd cŵn, ardaloedd cŵn ar dennyn a’i gwneud yn drosedd i fethu symud baw cŵn yn syth ar ôl i’r ci faeddu. Ar hyn o bryd mae perchnogion sy’n cyflawni trosedd yn cael hysbysiad cosb sefydlog o £100 yn lle erlyniad. Bydd methiant i dderbyn neu dalu o fewn amser penodol yn arwain at ymddangosiad llys.

Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithrediaeth Lle ac Amgylchedd:
“Mae mwyafrif helaeth perchnogion cŵn yn gyfrifol iawn a bob amser yn sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag unrhyw reoliadau yn ymwneud â’u cŵn. Fodd bynnag, bydd y cynnig a adnewyddwyd yn parhau i helpu i gadw ein mannau agored cymunedol a thir penodol yn rhydd o faw cŵn. Bydd rhoi hysbysiad cosb sefydlog i berchnogion cŵn anghyfrifol sy’n methu glanhau ar ôl eu cŵn yn helpu i gadw ein cymunedau yn lân a diogel.”

Pa dir a ddaw o fewn Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus?
• Bydd agwedd baw cŵn y gorchymyn diogelu mannau agored cyhoeddus yn parhau i weithredu i’r holl dir sy’n agored i’r aer ac y mae gan yr hawl neu ganiatâd i gael mynediad iddo o fewn ardal Blaenau Gwent.
• Mae’r mannau a gynigir ar gyfer gwahardd cŵn ac ardaloedd cŵn ar dennyn yn cyfeirio at ardaloedd penodol o dir a amlinellir gan y cynlluniau lleoliad. Mae’r rhan fwyaf o’r ardaloedd dynodedig presennol i barhau heb eu newid o’r gorchymyn presennol.
• Cynigir un ardal newydd ar gyfer gwahardd cŵn; PSPO-DC-106- Parc Bryn Bach, Tredegar – cynigir ardal gwahardd cŵn ychwanegol yn y parc sy’n gysylltiedig â’r ardal chwarae mini golff.
• Gellir hefyd weld y cynlluniau yn y swyddfa islaw rhwng dydd Llun – dydd Gwener rhwng 9am – 5pm.
• Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN.

Beth yw’r gosb am fethu cydymffurfio gyda Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cynnig parhau i gynnig hysbysiad cosb sefydlog o £100 am droseddau a ddaw o fewn Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus. Bydd methiant i dalu’r hysbysiad cosb sefydlog yn golygu y bydd yr awdurdod yn cymryd camau cyfreithiol a all arwain at yr uchafswm dirwy o lefel 3 ar y raddfa sylfaenol, sy’n £1,000 ar hyn o bryd.

Y broses ymgynghori
Mae gan y cyngor ddyletswydd gyfreithiol i ymgynghori ar y gorchymyn a gynigir ar ddiogelu mannau agored cyhoeddus ar gyfer mesurau rheoli cŵn cyn iddynt gael eu cyflwyno. Mae cyfnod yr ymgynghoriad rhwng dydd Mawrth 19 Gorffennaf 2022 a dydd Mercher 17 Awst 2022. Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, byddwn yn ystyried unrhyw sylwadau a wnaed cyn penderfynu p’un ai i wneud newidiadau neu symud ymlaen i gadarnhau’r gorchymyn.

Sut mae rhoi sylwadau ar y cynigion?
Os hoffech roi sylwadau ar y cynigion am orchmynion diogelu mannau agored cyhoeddus ar gyfer mesurau rheoli cŵn, anfonwch e-bost neu ysgrifennu atom erbyn dydd Mercher 17 Awst 2022 yn defnyddio’r manylion cyswllt islaw os gwelwch yn dda:
E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk
Ysgrifennu at: Adran Iechyd yr

Ysgrifennu at: Adran Iechyd yr Amgylchedd, CBS Blaenau Gwent, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN