Gofalwyr - Taflen Wirfoddoli

Gofalwyr di-dâl a chyn-Ofalwyr POSTER
Cyfleoedd Gwirfoddoli/Profiad Gwaith a/neu help gydag ysgrifennu CV
Peidiwch â cholli cyfle ardderchog i ofalwyr ddatblygu sgiliau mewn gofal iechyd a meysydd eraill !

Mae gofalwyr yn chwarae rôl mor bwysig ac yn defnyddio amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy wrth ofalu am rywun. Rydym am sicrhau bod Gofalwyr yn cael y cyfle i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau fel nad ydyn nhw’n colli cyfleoedd sydd ar gael.

Efallai eich bod am ddysgu sgiliau newydd, am edrych ar gyfleoedd cyn gwaith neu am gael cefnogaeth gyda’ch CV?

Beth bynnag yw eich sefyllfa. Hoffem glywed gennych!

Yr hyn sydd angen i chi wybod:

• Mae angen i chi fod yn 16 oed a throsodd
• Gall cyfleoedd fod yn hyblyg
• Rhoddir hyfforddiant am ddim a chefnogaeth i wirfoddolwyr
• Does dim gofynion am gymwysterau ffurfiol
• Bydd gennych fynediad i grwpiau cymorth rheolaidd
• Does dim cost i wirfoddolwyr, mae gwiriad DBS am ddim!

Dyma rai o’r cyfleoedd sydd ar gael:

Efallai eich bod wedi bod yn gofalu am gyfnod byr neu beth amser a’ch bod angen help gyda’ch hyder i ddychwelyd at waith neu ar gyfer cyfweld am swyddi.

Os oes diddordeb gyda chi mewn cyfleoedd profiad gwaith, datblygu’ch sgiliau, a gwella’ch CV, yna hoffem ni glywed gennych chi!
Cysylltwch â: Brona Oakerbee brona.oakerbee@torfaen.gov.uk

Nodwch y bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw yn ein cronfeydd data diogel at ddibenion eich ymholiad