Galw ar bobl Blaenau Gwent i ddweud eu dweud ar newidiadau ffiniau arfaethedig

Comisiwn Ffiniau i Gymru yn agor ymgynghoriad 8-wythnos ar fap etholaethau newydd

Mae pobl Blaenau Gwent yn cael eu hannog i ymateb i ymgynghoriad y Comisiwn Ffiniau i Gymru ar ei map arfaethedig o etholaethau seneddol newydd.

Mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi ei gynigion cychwynnol, bydd yn arwain at newidiadau sylweddol i etholaethau ar draws Cymru, wrth i’r wlad wynebu gostyngiad yn ei nifer o Aelodau Seneddol, o’r 40 presennol i 32.

Mae’r ymgynghoriad nawr ar agor a bydd yn cau ar 3 Tachwedd 2021. Gall drigolion dweud eu dweud ar y cynigion yn lleol, neu yn genedlaethol os ydyn nhw o blaid, neu yn erbyn y cynigion.

Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi sefydlu porth ymgynghori newydd sbon ble gall drigolion pori dros y cynigion a gwneud sylwadau ar elfennau penodol ohonynt. Gallwch ymweld â’r porth ar Porth ymgynghori (bcw-reviews.org.uk)

Mae hefyd modd weld y cynigion ar Y Comisiwn Ffiniau i Gymru | BComm Wales (comffin-cymru.gov.uk) neu mewn nifer o fannau ar draws y wlad, sydd wedi rhestri ar wefan y Comisiwn.

Yn Blaenau Gwent mae’r dogfennau ar gael i’w gweld yng Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy  NP23 6DN

Gall unrhyw un sydd eisiau ymateb i’r ymgynghoriad mewn ffordd ar-all  anfon eu sylwadau ar e-bost i cffg@ffiniau.cymru neu yn y post i Comisiwn Ffiniau i Gymru, Tŷ Hastings, Caerdydd, CF24 0BL.

Yn annog y cyhoedd i ymateb i’r ymgynghoriad, dywedodd Michelle Morris, Swyddog Canlyniadau ar gyfer etholaethau Blaenau Gwent: “Mae’r cynigion cychwynnol yma gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru yn awgrymu y bydd newidiadau sylweddol ar draws y wlad.

“Cam cyntaf yw hwn ar siwrne hir tuag at ad-drefnu etholaethau seneddol Cymru ac mae’ch gwybodaeth leol chi yn allweddol i’r arolwg.

“Anogaf bawb i leisio’u barn cyn 3 Tachwedd.”

Mae’n rhaid i bob etholaeth sydd yn cael eu cynnig gan y Comisiwn cynnwys rhwng 69,724 a 77,062 o etholwyr. Mi fydd y Comisiwn yn ystyried bob cynrychiolaeth sydd yn cael eu derbyn yn ystod y cyfnod ymgynghori ond maent wedi pwysleisio bod cynrychiolaethau yn gryfach pan maent yn cynnig opsiynau amgen sydd yn bosib o dan y ddeddf.

https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/pleidleisio-ac-etholiadau/the-boundary-commission-for-wales/