Dyn yn y llys am werthu dillad ffug dros Facebook

Cafodd dyn o Frynmawr ei ddirwyo am hysbysebu a gwerthu dillad ffug.

Roedd Kristian Paul Davies, 38 oed, o Stryd Alma, Brynmawr yn hysbysebu ac yn gwerthu dillad ac esgidiau ffug drwy eu dangos ar werth ar safleoedd gwerthu Facebook, yn ogystal â’i dudalen Facebook bersonol ei hun. Sylwyd gyntaf ar Davies yn hysbysebu ym mis Tachwedd 2021 ac ymwelodd Swyddogion Safonau Masnach Cyngor Blaenau Gwent â’i gyfeiriad cartref.

Ni wnaeth Davies ddilyn y cyngor a roddwyd a chafodd ei weld eto’n gwerthu nwyddau ffug ar Facebook ym mis Rhagfyr 2021 a mis Ionawr 2022. Honnodd Davies mai’r rheswm yr oedd yn gwerthu dillad ffug oedd i gael arian i brynu anrhegion Nadolig. Dywedodd ei fod wedi parhau i werthu er iddo dderbyn rhybudd dechreuol i atal y gweithgaredd oherwydd ei fod eisoes wedi talu am yr eitemau ac yn disgwyl eu derbyn.

Cyflwynwyd cyhuddiadau dan Adran 92 Deddf Nodau Masnach 1994 i gynnwys meddiant a hysbysebu nwyddau ffug gyda nodau masnach cofrestredig.

Cyflwynodd Davies ble ddieuog am bob un o’r pump trosedd dan Ddeddf Nodau Masnach 1994. Cafodd ddirwy o £180 am y ddwy drosedd gyntaf, a ostyngwyd i £120 am ble gynnar, a’i orchymyn i dalu gordal defnyddwyr o £30 a chostau o £2,500.

Dywedodd y Cyng Helen Cunnningham, Aelod Cabinet dros Le ac Amgylchedd ar Gyngor Blaenau Gwent:

“Mae gwerthu nwyddau ffug yn niweidiol i economïau lleol ac yn gweithio yn erbyn busnesau dilys sy’n ei chael yn anodd cystadlu ar faes chwarae gwastad. Yn yr achos hwn rhybuddiwyd y gwerthwr i beidio hysbysebu a gwerthu drwy Facebook ond anwybyddodd y rhybuddion hyn a pharhau i werthu. Yn yr amgylchiadau roedd y camau a gymerwyd gan Safonau Masnach yn gymesur ac roedd cyfiawnhad drostynt.”