Dweud eich barn ar ddrafft Asesiad Llesiant Gwent

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent yn ymgynghori ar hyn o bryd ar Ddrafft Asesiad Llesiant Gwent ac asesiadau llesiant ardaloedd lleol tan 21 Ionawr 2022.

Asesiad Llesiant Gwent
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod dyletswydd ar Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i gynhyrchu asesiad lleol o lesiant bob pum mlynedd. Dechreuodd y pump Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ardal Gwent ar y gwaith o gynnal yr y broses asesu ac ymgysylltu ar y cyd ym mis Ionawr 2021. Fe wnaethant gytuno i lunio un Asesiad ar gyfer Gwent gyfan, gydag asesiadau lleol ar gyfer pob ardal awdurdod lleol.

Caiff data ei chasglu o amrywiaeth o ffynonellau, yn cynnwys gan Data Cymru, arbenigwyr a’r cymunedau eu hunain, i gael darlun llawnach o lesiant yn yr ardal.

Disgwylir cyhoeddi’r asesiad llesiant nesaf erbyn 5 Mai 2022. Caiff yr asesiad ei ddefnyddio wedyn i ddatblygu Cynllun Llesiant Gwent erbyn mis Mai 2023.

Dweud eich barn
Fe’ch gwahoddir i anfon eich sylwadau, syniadau a phrofiadau am amrywiaeth o wasanaethau lleol sydd ar gael yma: https://www.gwentpsb.org/cy/well-being-plan/well-being-assessment/

Anfonwch eich sylwadau at:
Emma Scherptong, Arweinydd Proffesiynol Ymgysylltu, Cydraddoldeb a’r Gymraeg.
E-bost: emma.scherptong@blaenau-gwent.gov.uk