Diwygio’r Dreth Gyngor

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynlluniau i ddiwygio’r dreth gyngor yng Nghymru gyda’r nod o wneud y dreth gyngor yn decach i bawb.

Gobeithiant ailgydbwyso’r baich ar aelwydydd ac ariannu gwasanaethau sydd o fudd i bawb. Byddai hyn yn sicrhau cefnogaeth fwy effeithlon ar gyfer gwasanaethau lleol yn cynnwys ysgolion, gofal cymunedol, plismona, tân ac achub a seilwaith ffyrdd yn y tymor hirach.

Rhwng 12 Gorffennaf a 4 Hydref mae Llywodraeth Cymru eisiau clywed eich barn ar sut y gellir gwneud y dreth gyngor yn decach.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd eisiau cael eich barn ar sut i wella’r ystod cymhleth o ostyngiadau ac eithriadau a chynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor sy’n cefnogi aelwydydd ar incwm isel.

Rhowch eich barn ar y cynigion.

https://llyw.cymru/treth-gyngor-decach