Diweddariad ar Raglen Gwella Ysgolion Blaenau Gwent

Cafodd aelodau Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu Blaenau Gwent ddiweddariad ar raglen Gwella Ysgolion Blaenau Gwent.

Amlinellwyd y cynnydd mewn adroddiad a gyflwynwyd i’r cyfarfod, yn arbennig y pedair ysgol sy’n derbyn cymorth ychwanegol i wella ar hyn o bryd.

Yn gynharach eleni ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar ei dogfen newydd ‘Canllawiau Gwella Ysgolion: Fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd’.

Nod hyn yw:

• Cryfhau pwysigrwydd ac effeithlonrwydd hunanarfarnu a chynllunio gwella gan ysgolion, sy’n seiliedig ar ystod eang o dystiolaeth;
• Canolbwyntio ar flaenoriaethau hunanarfarnu a gwella ysgolion fel y man dechrau ar gyfer gwaith gydag awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol;
• Ystyried perfformiad ysgolion yn ei ystyr ehangaf, gydag ysgolion yn cael eu gwerthuso yn eu cyd-destun eu hunain, a gefnogir gan ystod eang o dystiolaeth, cynllunio gwella pwrpasol a chefnogaeth;
• Sicrhau fod prosesau hunanarfarnu yr ysgol yn dynodi meysydd o gryfder a blaenoriaethau ar gyfer gwella, a gaiff eu tynnu ynghyd mewn un cynllun strategol ar gyfer datblygu ysgol;
• Adeiladu ar hunanarfarniadau a chynlluniau datblygu ysgolion i weithio gydag awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i gytuno ar y gefnogaeth ychwanegol maent ei hangen i wella; a
• Dynodi lle mae gan ysgolion gryfderau a chapasiti i gydweithio gydag ysgolion eraill i’w cefnogi.

Fel canlyniad, bydd pob ysgol ym Mlaenau Gwent yn awr yn cael trafodaeth broffesiynol gyda’r Cyngor, Gwasanaeth Cyflawni Addysg De Ddwyrain Cymru a phartneriaid eraill i ganolbwyntio ar flaenoriaethau’r ysgol ar gyfer gwella, y gefnogaeth mae ei hangen a dynodi arfer da i rannu  gydag ysgolion eraill.

Yn ystod cyfnod cyflenwi’r dull gweithredu peilot, caiff barn ysgolion ei gasglu’n rheolaidd i fod yn sail i ymarfer wrth symud ymlaen.

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol Addysg y Cyngor:

“Mae ein hysgolion ym Mlaenau Gwent yn perfformio’n dda iawn yn gyffredinol, a rydym yn parhau i fod yn hollol ymroddedig i weithio’n agos gydag arweinwyr ysgolion a’n partneriaid yn y Gwasanaeth Cyflawni Addysg i sicrhau fod plant a phobl ifanc ym Mlaenau Gwent yn cael mynediad i’r addysgu a’r dysgu ansawdd uchel maent yn eu haeddu i gyrraedd eu potensial llawn.

“Croesawn y dull gweithredu newydd hwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer hunanarfarnu cryfach gan ysgolion a chynllunio gwella ac yn arbennig weithio ysgol i ysgol, gan fod y cydweithio hwn yn rhywbeth y buom yn gweithio arno eisoes ym Mlaenau Gwent ac a fu o fudd enfawr i nifer o’n hysgolion.”