Diogelu hawliau plant yn y gweithle

Cyn Mis Ymwybyddiaeth Cyflogaeth Plant, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn atgoffa busnesau sy’n cyflogi plant rhwng 13 oed a’r oed gadael ysgol orfodol y gall fod angen trwydded cyflogaeth plentyn i gydymffurfio â deddfwriaeth cyflogaeth plant. Mae trwyddedau yn rhad ac am ddim ac yn cael eu cyhoeddi gan yr Awdurdod Lleol lle mae’r plentyn yn gweithio.

Yng Nghymru, caiff cyflogaeth plant ei llywodraethu gan Ran II Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 a Rhan II Deddf Plant a Phobl Ifanc 1963, ochr yn ochr ag is-ddeddfau awdurdodau lleol, a all fod yn fwy cyfyngol.

Yn gyffredinol, ni chaniateir cyflogi plant o dan 13 oed, ac eithrio rhai gweithgareddau perfformio neu ddifyrrwch sydd wedi’u trwyddedu.

Mae lles plant yn hollbwysig. Pan fydd plant yn ymgymryd â gwaith rhan-amser, rhaid i gyflogwyr sicrhau bod iechyd, lles, diogelwch ac addysg y plentyn yn cael eu diogelu.

Yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Cyflogaeth Plant, bydd swyddogion y Cyngor yn codi ymwybyddiaeth ymhlith cyflogwyr er mwyn helpu i sicrhau bod pobl ifanc mewn swyddi rhan-amser yn gweithio’n ddiogel ac yn gyfreithlon.

  • Ni chaiff unrhyw blentyn gael ei gyflogi cyn 7.00yb nac ar ôl 7.00yh ar unrhyw ddiwrnod.
  • Ni chaniateir i unrhyw blentyn weithio am fwy na 4 awr heb egwyl o leiaf 1 awr.
  • Ni chaiff plentyn weithio am fwy na 2 awr ar ddydd Sul rhwng 7.00yb a 7.00yh.
  • Yn ystod tymor ysgol, ni chaiff unrhyw blentyn gael ei gyflogi am fwy na 12 awr yr wythnos.
  • Gall is-ddeddfau awdurdodau lleol osod cyfyngiadau pellach ar fathau o waith, lleoliadau ac oriau a ganiateir.

I gael cyngor ynghylch trwyddedau a rheolau lleol, cysylltwch â’r Awdurdod Lleol lle bydd y plentyn yn gweithio.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyflogaeth plant, gan gynnwys poster rheolau cyflogaeth plant a chanllawiau ar oriau a ganiateir, ar gael ar-lein:

https://www.gov.wales/child-employment-rules-poster

https://www.gov.wales/sites/default/files/publications/2024-04/permitted-hours-of-employment.pdf

Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Rwydwaith Cenedlaethol Cyflogaeth a Difyrrwch Plant (NNCEE):

https://www.nncee.org.uk/page/45/employment

https://www.facebook.com/Childemploymentandentertainment/