Dechrau Tymor y Gwanwyn – Cyngor Blaenau Gwent yn cadarnhau cynlluniau

Mae Cyngor Blaenau Gwent, ynghyd â phob pennaeth ysgol, heddiw wedi cytuno’n ffurfiol ar ei ddull gweithredu ar gyfer dechrau tymor y Gwanwyn ym mis Ionawr 2021.

Yn dilyn trafodaethau gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi cymeradwyo dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer ailagor ysgolion sy’n cynnwys hyblygrwydd ar gyfer dyddiadau dechrau fesul cam, yr opsiwn ar gyfer dysgu o bell a darpariaeth ar gyfer plant gweithwyr hanfodol a’r disgyblion mwyaf bregus.

Ers y cyhoeddiad rydym wedi gweithio’n agos gyda Phenaethiaid a Chyrff Llywodraethu ein hysgolion ym Mlaenau Gwent i gytuno ar y dull gweithredu cyffredin dilynol:

• Bydd gan bob ysgol naill ai ddyddiau cynllunio/hyfforddiant mewn swydd ar ddydd Llun 4 a hefyd ddydd Mawrth 5 Ionawr 2021. Mae hyn er mwyn sicrhau y gall staff baratoi’n llawn ar gyfer i ddysgwyr ddychwelyd yn ddiogel i’r ysgol. Ni fydd unrhyw ddisgyblion yn mynychu ysgol ar y dyddiau hyn;

• Bydd darpariaeth Dysgu o Bell ar gyfer pob disgybl ar 6, 7 a 8 Ionawr 2021;

• Ddydd Mercher 6, dydd Iau 7 a dydd Gwener 8 Ionawr 2021, bydd darpariaeth gofal plant ar gael ar gyfer plant gweithwyr hanfodol yn unig ac ar gyfer disgyblion bregus a ddynodwyd yn cynnwys disgyblion gyda Datganiad AAA. Gofynnir i rieni cymwys wneud cais am y ddarpariaeth hon;

• Mae ysgolion uwchradd yn gweithio i sefydlu darpariaeth ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 11 (fel grŵp blaenoriaeth) o 6 Ionawr 2021; a

• Bydd ysgolion yn croesawu yr holl ddysgwyr yn ôl o ddydd Llun 11 Ionawr 2021.

Dyma’r dull gweithredu a gytunwyd gydag ysgolion ar hyn o bryd, ac os bydd unrhyw newid caiff hynny ei hysbysu fel sydd angen.

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol dros Addysg ar Gyngor Blaenau Gwent:

“Mae lleihau tarfu ar ddysgu plant a phobl ifanc yn parhau’n flaenoriaeth i’r Cyngor, ac mae’n rhaid i ni gydbwyso hynny’n ofalus gydag iechyd a llesiant dysgwyr a holl gymuned yr ysgol.

Rydym yn falch ein bod wedi medru gweithio’n agos a chytuno gyda Phenaethiaid ysgolion ar y dull gweithredu hwn, sy’n rhoi eglurdeb i rieni a gofalwyr am ailagor ysgolion ym mis Ionawr. Mae’n bwysig fod ysgolion yn cael amser i baratoi’n effeithlon ar gyfer i bob dysgwr ddychwelyd yn ddiogel.

Bydd dysgu o bell ar gael ar gyfer peth o’r wythnos gyntaf, gan sicrhau nad oes fawr ddim tarfu ar addysg, a fel bob amser byddwn yn parhau i roi’r gefnogaeth angenrheidiol i’n dysgwyr mwyaf bregus a’u teuluoedd.

Diolch unwaith eto i’n holl staff Addysg a staff ein hysgolion am eu hymroddiad a’u gwaith caled yn ystod y flwyddyn anodd iawn hon.”

Bydd taliadau uniongyrchol am brydau ysgol am ddim yn parhau tan yr wythnos yn diweddu dydd Gwener 8 Ionawr.