Daliwch ati gyda’r ymdrechion ailgylchu GWYCH y Nadolig hwn i gael Cymru i rif un

Wrth i gyfradd ailgylchu Cymru gyrraedd ei lefelau uchaf erioed, rydyn ni’n galw ar ein preswylwyr i ddal ati gyda’u hymdrechion ‘gwych’ i ailgylchu’r Nadolig hwn. 

Gyda 94% ohonom yn ailgylchu’n rheolaidd *, mae Cymru’n genedl o Ailgylchwyr Gwych. Ni yw’r drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu, ac rydyn ni’n cefnogi Ymgyrch Gwych Cymru yn Ailgylchu i gyrraedd rhif un.

Mae’r data diweddaraf yn datgelu ein bod un cam yn nes at gyrraedd y brig, gan fod cyfradd ailgylchu Cymru wedi codi i 65.4%**. Mae hyn yn golygu ein bod yn ailgylchu ychydig mwy na 65% o’n gwastraff yn gyfan gwbl, sy’n rhagori ar darged Llywodraeth Cymru yn ‘Mwy nag Ailgylchu’ o 64% ar gyfer eleni.

Datgelodd arolwg a gynhaliwyd yn gynharach eleni bod mwy na 8 ym mhob 10 o ddinasyddion Cymru’n ystyried mai ailgylchu yw’r peth ‘iawn’ i’w wneud erbyn hyn, ac mae 7 allan o 10 yn ailgylchu i chwarae eu rhan dros yr amgylchedd.*** Mae mwy ohonom nag erioed yn gweld ailgylchu fel rhan o’n harferion dyddiol. Mae’n ddiddorol gweld bod cynnydd mawr yn y nifer ohonom sy’n nodi mai pryderon amgylcheddol yw ein prif ysgogiad i ailgylchu. Mae hyn yn wych, ond gyda bron i’n hanner ni ddim yn ailgylchu popeth y gallwn o hyd, mae mwy y gallwn ei wneud i sicrhau bod ein heitemau ailgylchadwy’n cael eu rhoi allan gyda’n casgliadau ailgylchu ar ymyl y ffordd bob wythnos.

Os ydym ni am gael Cymru o’r trydydd safle yn y byd i rif un, a pharhau i ddiogelu ein hadnoddau gwerthfawr, mae angen inni oll roi hybu ein hymdrechion dros gyfnod yr Ŵyl.

Yn draddodiadol, y Nadolig yw’r adeg o’r flwyddyn pan gaiff mwy o wastraff ei greu gartref. O’r holl fwyd ychwanegol rydyn ni’n ei brynu, i’r mynydd o ddeunydd pacio a ddaw yn sgil prynu anrhegion Nadolig, mae’n gyfle gwych i wneud yn siŵr ein bod yn ailgylchu popeth posibl.

Dyna pam rydyn ni’n cefnogi’r ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha. gan Cymru yn Ailgylchu, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, i annog pawb yng Nghymru i fod yn Ailgylchwyr Gwych y Nadolig hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd:
“Mae dinasyddion Cymru’n dangos eu bod yn WYCH am ailgylchu, a dylem oll fod yn falch o’n hymdrechion, ond mae mwy y gallwn ei wneud o hyd. Rydyn ni’n galw ar ein  preswylwyr i ddal ati gyda’r gwaith da dros y Nadolig a helpu i gael Cymru i Rif 1, yn enwedig gan mai ar yr adeg hon o’r flwyddyn rydyn ni’n defnyddio ac yn prynu llawer mwy nag arfer”.

“Gwyddom fod pobl yng Nghymru’n malio am ddiogelu ein gwlad hardd ac mae ailgylchu’n chwarae rhan allweddol mewn taclo newid hinsawdd. Dyma weithred syml y gall pawb ei gwneud i helpu i wneud gwahaniaeth go iawn”.

Dilynwch y cynghorion gwych hyn i fod yn Ailgylchwr Gwych y Nadolig hwn:

• Bwytewch, ailgylchwch, byddwch lawen. Mae pob Cyngor yng Nghymru’n darparu gwasanaeth casglu ailgylchu gwastraff bwyd wythnosol. Defnyddiwch ef, da chi. Gellir ailgylchu esgyrn twrci, crafion llysiau ac unrhyw fwydydd dros ben na ellir eu bwyta’n ddiogel yn nes ymlaen! A daliwch ati i ailgylchu gwastraff bwyd arall dros gyfnod y Nadolig hefyd, fel bagiau te a gwaddodion coffi, plisg wyau, crafion a chreiddiau ffrwythau a hen fara.

• Concrwch eich cardbord y Nadolig hwn. Gallwch ailgylchu’r holl gardbord a ddaw yn eich danfoniadau ar-lein. Tynnwch y tâp pacio a fflatio unrhyw focsys, neu gallwch eu torri’n ddarnau llai i arbed lle yn eich bag, bin neu focs ailgylchu. Ar ôl y Nadolig, ailgylchwch eich cardiau i gyd, ond cofiwch dynnu unrhyw fathodynnau, ffoil, llwch llachar neu rubanau’n gyntaf, gan na ellir ailgylchu’r darnau hyn.

• Gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o eitemau plastig a geir o amgylch y cartref, yn cynnwys poteli diodydd, poteli nwyddau glanhau, a photeli nwyddau ymolchi. Gwagiwch, rinsiwch a gwasgwch nhw cyn eu hailgylchu. Gadewch unrhyw gaeadau, labeli, pigau arllwys a chwistrelli arnynt, caiff y rhain eu tynnu yn ystod y broses ailgylchu. Gallwch hefyd ailgylchu’r tybiau plastig mawr o siocled a losin mae’r rhan fwyaf ohonom yn eu mwynhau dros y Nadolig!

• Peidiwch anghofio ffoil y Nadolig hwn. Ailgylchwch eich casys mins peis ffoil gwag ac unrhyw ffoil a gafodd ei ddefnyddio i goginio dros y Nadolig, cyn belled â’i fod yn lân, heb staen a heb fwyd, saim neu olew arno. Rinsiwch dybiau a chynwysyddion ffoil cyn eu hailgylchu.

• Gellir ailgylchu caniau bwyd a diod metel. Rhowch rinsiad sydyn i’r caniau’n gyntaf.

• Mae papur lapio yn anodd ei ailgylchu, ond mae yna ddewisiadau amgen ecogyfeillgar i’w cael, fel papur brown a brethyn lapio, a gellir eu haddurno gyda rhubanau Nadoligaidd, a’r peth da amdanyn nhw yw y gellir eu defnyddio eto'r flwyddyn nesaf!

Os ydych chi’n ansicr o’r hyn y gallwch – ac na allwch – ei ailgylchu, gallwch ddefnyddio Lleolydd Ailgylchu Cymru yn Ailgylchu.

I ddysgu mwy am ffeithiau ac awgrymiadau ’12 dydd y Nadolig’ Cymru yn Ailgylchu, ewch draw i’r wefan byddwychailgylcha.org.uk/ neu ymunwch â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #ByddWychAilgylcha a #ByddWychDrosYDolig.
___________________________________________________________

* WRAP National Recycling Tracker (Cymru), Mawrth 2021
** StatsCymru
*** Arolwg Icaro Post-Burst 3, Ebrill 2021